Newyddion S4C

Dyn wedi ei arestio yn ystod protest gan ffermwyr yn Wrecsam

Dyn wedi ei arestio yn ystod protest gan ffermwyr yn Wrecsam

Mae dyn wedi ei arestio yn ystod protest brynhawn Llun yn Wrecsam, wrth i ffermwyr yrru i mewn i'r ddinas mewn tractorau ac ymgynnull o flaen swyddfa'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Roedd yr heddlu yn bresennol wrth i ffermwyr leisio eu hanfodlonrwydd â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar ddyfodol amaeth.

Roedd nifer o dractorau y tu allan i swyddfa'r gweinidog yn canu eu cyrn.  

Dywedodd yr heddlu iddyn nhw dderbyn adroddiadau fod nifer o gerbydau yn rhwystro'r traffig ar Ffordd Rhosddu yn y ddinas.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Bowcott: “Roedd swyddogion yr heddlu yn bresennol wedi adroddiad am brotest yn ninas Wrecsam y prynhawn yma.

"Cafodd camau cadarnhaol cynnar eu cymryd i ddelio â digwyddiad unigol yn ymwneud â difrod troseddol ac mae dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad."

Mewn fideos a gafodd eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, roedd dwsinau o dractorau i'w gweld ar y ffordd.  

Roedd un protestiwr yn dal arwydd oedd yn dweud 'Heb Amaeth.Heb Faeth.'

Dros yr wythnos diwethaf mae ffermwyr wedi cyfarfod yn gyhoeddus i drafod newidiadau posibl i ddyfodol amaeth yng Nghymru.

Nos Iau, roedd dros 3,000 o ffermwyr yn bresennol mewn cyfarfod tanllyd ym Mart Caerfyrddin.  

A chafodd cyfarfodydd eu cynnal yn Arberth, Sir Benfro, a'r Trallwng ym Mhowys, rai dyddiau ynghynt. 

Cafodd y cyfarfodydd eu trefnu yn sgil anfodlonrwydd â Chynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn ogystal â pholisïau eraill yn ymwneud â'r diciâu (TB) a'r gofyniad i blannu coed ar 10% o dir ffermwyr.  

'Pryderon'

Wrth ymateb i'r cyfarfodydd hynny, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ei bod yn deall bod hwn yn gyfnod o newid ac o ansicrwydd i ffermwyr, ond mae hi yn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

"Dwi'n meddwl beth sy'n bwysig iawn o ran y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd yn pryderu nifer fawr o bobl ydi ei fod yn ymgynghoriad," meddai.

"Os ydi pobl eisiau protestio, cyn belled â'u bod nhw'n gwneud hynny yn gyfreithlon a'n heddychlon, dwi wedi bod ar sawl protest yn fy amser i, fi fyddai'r person olaf i ddweud na ddylech chi wneud hynny. Ond nid wyf am dderbyn unrhyw fygythiadau yn erbyn fy swyddogion na fy hun."

Llun a fideo: Eilir Jones
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.