Newyddion S4C

Cyhoeddi'r artistiaid fydd yn perfformio mewn gŵyl gerddoriaeth yng Nghaerdydd

12/02/2024
Depot in the Castle

Mae rhestr lawn y cerddorion fydd yn perfformio yn un o wyliau cerddoriaeth fwyaf y brifddinas yn ystod yr haf wedi cael ei chyhoeddi fore Llun.

Bydd gŵyl Depot in the Castle yn cael ei chynnal yng nghastell Caerdydd ar 27 Gorffennaf, a’r gantores pop, Anne Marie, fydd y brif act eleni.

Yn ymuno â’r cerddor, sydd hefyd yn wyneb adnabyddus i wylwyr rhaglen teledu The Voice, bydd yr Albanwr, Tom Walker yn ogystal â’r DJ a’r cynhyrchydd, Jax Jones.

Bydd band CVC ag artistiaid Mr Wilson’s Second Liners ar lwyfan Depot in the Castle yn ogystal, gyda’r DJ Artful Dodger hefyd yn chwarae set.

Mi fydd y cerddor Ben Ellis hefyd yn bresennol tra bydd y DJ Ian Davies, sydd yn adnabyddus am gynnal digwyddiadau Bingo Lingo yng Nghaerdydd a thu hwnt, hefyd yn perfformio. 

Cafodd gŵyl Depot in the Castle ei chynnal am y tro cyntaf yn 2018, ac mae enwogion fel Syr Tom Jones, Blondie, Kaiser Chiefs, Tom Odell a Bastille eisoes wedi perfformio yno. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.