Gyrrwr motobeic wedi marw mewn damwain ffordd ger Beddgelert
Mae gyrrwr motobeic wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Rhyd-Ddu a Beddgelert dydd Sadwrn.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd dderbyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta llwyd a beic modur du Yamaha am 15.50 ar ffordd A4085.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cyhoeddwyd bod y dyn oedd yn gyrru'r beic modur wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu a'r Crwner wedi cael gwybod.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion i'r digwyddiad.
Dywedodd y Sarjant Alun Jones o Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Yn anffodus, mae hwn yn destun ymchwiliad gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol ac mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd iawn hon.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio neu’n cerdded ar hyd yr A4085 yng nghyffiniau Beddgelert ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â ni.
“Mae’r ffordd yn parhau ar gau er mwyn galluogi’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig i gynnal eu hymchwiliad cychwynnol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd.”
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd dros y we, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod Q019839.