Y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod diffyg maeth ymysg plant Gaza wedi 'cynyddu'n sylweddol'
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod diffyg maeth ymysg plant ifanc yng ngogledd Gaza wedi cynyddu yn sylweddol, a bellach yn uwch na'r trothwy arwyddocaol o 15%.
Dywedodd asiantaeth cydgysylltu dyngarol yr UN, Ocha, bod mwy na hanner o'r ymgyrchyoedd cymorth i ogledd Gaza wedi cael eu hatal fis diwethaf, a bod yna ymyrraeth gynyddol gan luoedd Israel o ran sut a ble mae cymorth yn cael mynd.
Mae'n dweud fod amcangyfrif o 300,000 o bobl yn y gogledd heb fynediad i gymorth, ac yn wynebu risg gynyddol o newyn.
Dywedodd hefyd fod byddin Israel "ar adegau yn gofyn am gyfiawnhad" ar gyfer faint o danwydd sydd i fod ar gyfer cyfleusterau iechyd, gan hefyd "osod cyfyngiadau ar faint o gymorth, gan gynnwys bwyd."
Dywedodd llefarydd ar ran asiantaeth filwrol Israel sy'n gyfrifol am gydlynu mynediad i gymorth yn Gaza fis diwethaf nad oes yna "unrhyw newyn yn Gaza."
Mae'r asiantaeth Cogat wedi dweud sawl tro nad yw'n cyfyngu ar faint o gymorth dyngarol sy'n cael ei anfon i Gaza.
Daw hyn wedi i bobl yn ninas ddeheuol Rafah baratoi i wynebu golygfeydd 'gwaelyd' pan fydd lluoedd Israel yn cyrraedd, wrth i bron i filiwn o bobl ddisgwyl i gael eu symud oddi yno.
Dywedodd Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu nos Wener ei fod wedi gorchymyn ei fyddin i ddatblygu cynllun ar y cyd i symud pobl o'r ddinas, sef yr ardal olaf lle mae pobl Gaza wedi dod o hyd i loches.
Oriau yn unig wedi'r datganiad, hu farw o leiaf 11 o Balesteiniaid mewn ymosodiad o'r awyr ar dŷ yn Rafah yn ôl adroddiadau.