Newyddion S4C

Cyngor y Celfyddydau'n ymgynghori â staff ar ddiswyddo gwirfoddol

09/02/2024
cyngor celfyddydau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n ymgynghori gyda staff ar ddiswyddiadau gwirfoddol, yn dilyn toriad i'w gyllideb.

Dywed y Cyngor bod eu cyllideb yn is mewn termau arian-parod nag yr hyn oedd yn bodoli yn 2010, sy’n golygu toriad o "oddeutu 37%" mewn termau-real.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Dafydd Rhys: “Mae’r celfyddydau yng Nghymru yn wynebu sefyllfa ariannol heriol. Mae’r toriad o 10.5% i’n cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ynghyd ag effeithiau chwyddiant, yn golygu bod rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn.

“Yn ei gyfarfod yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth ein Cyngor gytuno i leihau ein cynigion Cyllid Aml-flwyddyn gan 2.5% dros yr 81 sefydliad fu’n llwyddiannus. 

"Mae’r sector eisoes wedi dioddef toriad termau-real yn sgil yr argyfwng costau byw ac yn parhau i ddelio gydag effeithiau’r pandemig. 

"Rydym yn credu’n gryf byddai trosglwyddo’r toriad o 10.5% ymlaen yn llawn yn opsiwn afrealistig a fyddai’n niweidio gallu’r sector i gyflawni ein hegwyddorion a’n blaenoriaethau strategol."

Polisi diswyddo

Ychwanegodd Mr Rhys: “Rydym fel sefydliad wedi ymgynghori â’r undeb llafur Unite ac wedi cytuno ar bolisi diswyddo a gafodd ei gymeradwyo gan bleidlais ymysg yr aelodau. 

"Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori gyda’n staff ar ddiswyddiadau gwirfoddol, ond mae’n anochel y bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach i’n costau gweithredu.

“Hoffwn ddiolch i’n staff am eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad yn ystod yr amser anodd hwn.”

Wrth ymateb i doriad i'w cyllideb gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, dywedodd y cyngor eu bod wedi colli traean o'u harian mewn termau real ers 2010. 

Dywedodd y Cyngor y byddai'r toriad newydd o 10.5% yn ei gwneud hi'n "anoddach fyth i sicrhau bod gwaith celfyddydol o safon ar gael ledled Cymru ar gyfer ein holl gymunedau. 

"Bydd yn effeithio ar y gwaith amhrisiadwy rydym yn ei gefnogi yn y Celfyddydau ac Iechyd, Addysg, y Gymraeg ac ehangu ymgysylltiad, gan gofio bod pob un ohonynt yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Y gyllideb hon o £30.429 miliwn ar gyfer 2024/25 yw'r isaf ers 2007/08."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn glir wrth inni ddechrau paratoi'n cyllideb ddrafft y bu'n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd dros ben, a hynny oherwydd bod ein Cyllideb bellach yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021. Bydd ein cyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi fis nesaf.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'r staff yn y cyrff am y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud ac am y budd y mae pobl Cymru yn ei gael o'r gwaith hwnnw. Maen nhw wedi gweithio'n gyflym i asesu'r effaith y bydd y gyllideb a ddyrannwyd ar eu cyfer yn ei chael ac, ar ôl edrych ar yr opsiynau sydd ganddyn nhw, a thrafod gyda'u hundebau llafur, maen nhw wedi penderfynu lansio ymgyngoriadau diswyddo gwirfoddol gyda'u staff."

Llun: Cyngor Celfyddydau Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.