Ymosodiad alcali: Heddlu arfog yn cynnal cyrchoedd yn Newcastle
Mae heddlu arfog wedi cynnal dau gyrch mewn cyfeiriadau yn Newcastle fel rhan o’r ymgyrch i ddod o hyd i Abdul Ezedi yn dilyn ymosodiad alcali yn Clapham, Llundain.
Dywedodd Heddlu'r Met fod y cyrchoedd, gan gynnwys un yng ngweithle Ezedi, wedi’u cynnal yn oriau mân bore dydd Iau.
Nid oes unrhyw arestiadau wedi’u gwneud yn dilyn y cyrchoedd, oedd yn ymgyrch ar y cyd rhwng y Met a Heddlu Northumbria.
Mae Ezedi, 35, wedi’i amau o arllwys alcali cryf ar ei gyn bartner, ac o anafu ei dau blentyn ifanc, tair ac wyth oed, ar ddydd Mercher Ionawr 31 yn Clapham, de Llundain.
Mae ymgyrch helaeth i geisio dod o hyd i Ezedi ac fe gafodd ei weld ddiwethaf am 23:00 ar noson y digwyddiad ar Ffordd Pont Vauxhall yng nghanol Llundain.
I ddechrau roedd yn teithio o gwmpas ar rwydwaith y Tiwb gan ddefnyddio ei gerdyn banc ac, ar ôl hynny, mae'n ymddangos ei fod yn cerdded llwybr ar hyd Afon Tafwys.
Mae’r ddynes a anafwyd yn yr ymosodiad, a allai golli’r golwg yn ei llygad dde, yn dal yn yr ysbyty ac yn dal yn rhy sâl i siarad â’r heddlu.
Mae'r heddlu wedi datgelu bod y ddynes wedi bod mewn perthynas ag Ezedi, gyda chwalfa’r berthynas yn gymhelliad posib i’r ymosodiad.