Cyhuddo heddwas o Heddlu Dyfed-Powys o ymosodiad rhyw
Mae heddwas gyda Heddlu Dyfed-Powys wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol drwy dreiddio ('penetration') pan nad oedd ar ddyletswydd yn 2021.
Mae'r Ditectif Gwnstabl Sam Garside, sydd wedi’i leoli yn rhanbarth Ceredigion, wedi’i wahardd o’i ddyletswyddau ers mis Gorffennaf 2023 pan adroddwyd ei fod wedi cyflawni trosedd honedig tra'r oedd oddi ar ddyletswydd ym mis Rhagfyr 2021.
Bydd y dyn 30 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar 6 Mawrth.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio Huw Davies: “Mae hwn yn honiad difrifol, ac rwy’n cydnabod y bydd yn achosi pryder ymhlith ein cymunedau.
“Hoffwn roi sicrwydd bod camau cyflym wedi’u cymryd pan wnaed yr honiad, ac rydym yn awr yn aros am ganlyniad y broses cyfiawnder troseddol.
“Mae achosion cyfreithiol bellach ar y gweill, ac mae’n bwysig osgoi sylw pellach tra bod y broses hon yn digwydd.”