Seren Bargain Hunt i wynebu achos llys ar gyhuddiad o ymosod ac ymddygiad gorfodol
Fe fydd seren y gyfres deledu Bargain Hunt Charles Hanson yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf wedi iddo gael ei gyhuddo o ymosod ac ymddygiad o reolaeth gorfodol yn erbyn ei wraig.
Ymddangosodd Mr Hanson, 45, o flaen Llys y Goron Derby ddydd Mercher gan bledio'n ddi-euog i ymddygiad o reolaeth gorfodol rhwng 2015 a 2023, ymosod gan achosi niwed corfforol ym Mai 2020, a dau gyhuddiad o ymosod drwy daro yn 2022 a 2023.
Roedd eisoes wedi gwadu'r cyhuddiadau, sy'n ymwneud â'i wraig, Rebecca, yn Llys Ynadon Derby ar 10 Ionawr.
Mae Mr Hanson wedi ymddangos ar raglenni Flog It! ac Antique Road Trip y BBC hefyd.
Dywedodd y Barnwr Shaun Smith KC wrtho y byddai'n wynebu achos llys rhwng saith a 10 diwrnod o hyd yn dechrau ar 10 Chwefror y flwyddyn nesaf.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod na fyddai'n mynd i'r cartref teuluol yn Quarndon nac yn cysylltu gyda'i wraig.