Newyddion S4C

Prifathrawon sir yn arwyddo llythyr i wrthwynebu toriadau cyllid Cyngor Conwy

07/02/2024

Prifathrawon sir yn arwyddo llythyr i wrthwynebu toriadau cyllid Cyngor Conwy

Mae Ysgol Bro Gwydir yn Llanrwst yn llawn cymeriadau. O'r celfyddydau i fathemateg, gwersi Cymraeg i wyddoniaeth. Mae 'na ymgais yma i roi'r gorau i ddisgyblion. Ond mae ysgolion ar draws Sir Conwy yn wynebu her enfawr wrth i'r Cyngor ystyried toriadau.

Chi'n son am 5-6% i ysgolion ac mae hynny'n ergyd eithafol. Mae son am 10%. Mae'r effaith mae hyn yn mynd i gael ar ysgolion yn ofnadwy. Mae hynny'n meddwl colli lot o staff. Ni'n sy'n dioddef - ni a'r plant.

Mae Cyngor Conwy yn ystyried toriadau rhwng 6-10% yng nghyllideb addysg y sir. Mewn ymateb, mae holl benaethiaid y sir wedi ysgrifennu llythyr yn nodi eu pryderon am y cynllun i rieni'r ardal.

Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy, Owain Davies yw un o'r rhai sydd wedi arwain y fenter. Ni'n barod wedi gwneud toriadau a cwtogi ar ein staff. Mae genna i enghreifftiau yn Ysgol Dyffryn Conwy lle 'dan ni'n barod wedi gorfod peidio ag ailgyflogi yn dilyn rhywun yn gadael neu'n ymddeol.

Mae ysgolion eisoes wedi gwneud toriadau sylweddol ac mae'r parhad yn y toriadau'n gwneud hi'n sefyllfa argyfyngus.

Pa fath o bethau mae'r ysgolion yn ystyried os yw'r toriadau yma'n digwydd? Mae rhai ysgolion yn ystyried cael benthyciad er mwyn mynd dros y sefyllfa gyllidol yma. Mae enghreifftiau ymarferol.

Dysgu grŵp fawr o ddisgyblion mewn neuadd yr ysgol er mwyn arbed ar staff. Ystyried hyd y diwrnod ysgol o ran gwneud toriadau sy'n mynd i arbed ar yr ynni.

Mae'r sefyllfa'n mynd i gael effaith ar addysg pobl ifanc. Pam y toriadau i gyllideb addysg Sir Conwy? Fel sawl Cyngor Sir yng Nghymru mae gan Gyngor Conwy dwll du ariannol sylweddol ar hyn o bryd.

Mae angen i'r Cyngor arbed £25 miliwn yn ei gyllideb nesaf. Cynyddu treth y cyngor ydy un ffordd a'r llall yw torri gwasanaethau gan gynnwys addysg. Beth yw barn rhieni Llanrwst am hynny? Dw i'n deall bod rhaid gwneud toriadau. Dw i ddim yn meddwl addysg yw'r lle gorau i ddechrau.

Mae'r plant yn mynd i golli allan. Bydd y rhieni'n gorfod chwilio am fwy o bres i deithiau. Chi eisiau sicrhau'r addysg gorau i'ch plant. Mae'n bryderus a gallen nhw edrych mewn llefydd eraill.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Conwy nad oedd ganddyn nhw ddewis ond lleihau gwariant mewn nifer o feysydd. A hynny oherwydd effaith chwyddiant, prysau ynni a thanwydd uchel a'r cynnydd yn y galw am wasanaethau ar draws y sir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r grantiau i ysgolion. Bydd unrhyw benderfyniad ar gyllideb addysg y sir yn cael ei wneud wrth i'r Cyngor gwblhau ei gyllideb ar ddiwedd mis Chwefror.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.