Newyddion S4C

Gwrthwynebiad yn Sir Gâr i'r bwriad i godi dros 8,800 o dai newydd

07/02/2024

Gwrthwynebiad yn Sir Gâr i'r bwriad i godi dros 8,800 o dai newydd

Dim ond 80 o dai sydd ym mhentref bach Porthyrhyd ger Caerfyrddin.

Ond mi allai 42 gael eu codi yma ar y cae hwn yn unig. A hynny mewn pentref, ble mae gwaith ymchwil y pentrefwyr ei hun yn dangos cryfder y Gymraeg.

O ran oedolion, 64%. Pan chi'n ychwanegu ystadegau'r plant, mae'n 68.5%. Felly, ni'n ymhyfrydu yn y ffaith bod Porthyrhyd yn un o'r pentrefi sy'n dal ei dir o ran yr iaith Gymraeg.

Mae Porthyrhyd ag ystadegau sy'n golygu ein bod ag arwyddocâd ieithyddol arbennig dylid cael ei ystyried yn naturiol o ran unrhyw gais datblygu.

Mae'r pentrefwyr yn bryderus am y system garthffosiaeth ac am lifogydd yn yr ardal. Y pryder mwyaf yw i'r Gymraeg cael ei boddi gan ddatblygiad newydd.

Man a man bod ni'n claddu'r Gymraeg yn y fynwent nesaf at y datblygiad. Neu gallwn foddi hi yn y llifogydd sy'n digwydd yma.

Mae'n rhaid i'r Cyngor Sir ailedrych ar y nifer o'r tai sydd eu hangen. Yn amlwg, mae'r cais yn rhy fawr ar gyfer y pentref. Dyw e ddim yn gynaliadwy yn gymdeithasol.

Mae'n sicr o gael effaith ar y Gymraeg. Grŵp Pobl sydd am godi'r tai.

Dywedodd Pobl y byddan nhw'n cynnig cymysgedd cynaliadwy o dai 13 o dai i'w prynu a deg ar sail rhan berchnogaeth.

Mae'r gweddill i'w rhentu er mwyn lleddfu'r prinder tai lleol. Maen nhw'n dweud bod nhw'n deall y pryderon am yr effaith ar y Gymraeg.

Bydd pobl lleol yn cael blaenoriaeth wrth osod tai i'w rhentu. Mi allai bron i 9,000 o dai newydd gael eu codi yn Sir Gaerfyrddin erbyn 2033 o dan y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Dangosodd canlyniadau'r cyfrifiad dair blynedd nôl ostyngiad arall yn y nifer o siaradwr Cymraeg yn Sir Gar gyda llai na 40% yn medru'r iaith nawr.

Mae'r Aelod Seneddol lleol yn galw am atal y broses o greu'r Cynllun Datblygu Lleol ac atal datblygiadau mawr dan y cynllun presennol.

Ni'n gwybod bod y Cyngor yn ymgynghori ar y cynllun oherwydd rheolau Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae hwn yn gyfle i gymryd cam nôl. Mae'n allweddol bod y Cyngor yn wneud asesiad llawn o effaith y cynllun fel mae hi.

Gall yr asesiad fod yn broses byr iawn gydag argymhellion. Nes bod ni wedi gwneud yr asesiad a chael yr argymhellion moratoriwm ar ddatblygiadau fel yr un yma ym Mhorthyrhyd.

Gwegian mae'r Gymraeg yn y sir ac mae oedi'n syniad ardderchog. Gobeithio gallwn berswadio'r sir i leihau cyfanswm maen nhw'n adeiladu.

Doedd yr Aelod Cabinet, Ann Davies, sy'n gyfrifol am gynllunio ddim ar gael i wneud cyfweliad.

Dywedodd y Cyngor Sir y bydd tystiolaeth o'r cyfrifiad diwethaf yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o archwilio'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.

Proses fydd dan oruchwyliaeth arolygwr ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor yn dweud bod y Gymraeg yn bwysig i ni gyd a bod nhw wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg.

Mae disgwyl i gais Porthyrhyd gael ei drafod yn yr wythnosau nesaf ond yn ôl rhai mae'n bryd cymryd cam yn ôl cyn penderfynu faint o dai newydd sydd angen ar Sir Gar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.