Newyddion S4C

Galw ar Dŵr Cymru i 'anelu’n uwch' wrth fynd i'r afael â llygredd

Dwr Cymru

Mae Pwyllgor Amgylchedd y Senedd wedi galw ar Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflymu mesurau i fynd i’r afael â llygredd yn nyfroedd y wlad.

Yn ôl y Pwyllgor, dylai Dŵr Cymru osod targed mwy uchelgeisiol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030, gyda tharged o beidio â chael unrhyw achosion o lygredd cyn gynted â phosibl.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod ei hamserlen ar gyfer gwahardd weips gwlyb sy'n cynnwys plastig cyn gynted â phosibl.

Clywodd y Pwyllgor mai cadachau gwlyb sy’n creu’r rhwystrau pennaf mewn pibellau dŵr.

Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn croesawu'r adroddiad ac yn "paratoi i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol."

'Atebion'

Yn ôl Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, mae angen newid cyn i bethau waethygu.

“Mae adroddiadau perfformiad diweddar yn dangos nad yw Dŵr Cymru’n treiddio’n bell o dan wyneb y dŵr pan ddaw’n fater o gyflawni ar ran ei gwsmeriaid a’r amgylchedd," meddai.

“Llygredd, gollyngiadau, ansawdd dŵr yfed ac ymyriadau cyflenwad – dim ond rhai o'r problemau y mae Dŵr Cymru yn ei chael hi'n anodd dygymod â nhw. Ar ben y gollyngiadau carthion cyson sy'n rhy gyfarwydd i bob un ohonom, does ond un casgliad: mae angen i Dŵr Cymru anelu’n uwch.

“Mae tywydd eithafol a newid hinsawdd yn creu llanast ar y system dŵr a charthffosiaeth, sef system sy’n heneiddio. Mae disgwyl y bydd effeithiau newid hinsawdd yn gwaethygu dros y blynyddoedd i ddod, ac mae angen i Dŵr Cymru ddod o hyd i atebion cynaliadwy a hirdymor, sy'n fforddiadwy i gwsmeriaid.

“Mae’n dasg heriol, ond yn un sy’n rhaid i Dŵr Cymru ei chyflawni."

Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i Dŵr Cymru weithio’n galetach ac yn gyflymach i adfer ei safle fel arweinydd o fewn y diwydiant o ran perfformiad amgylcheddol. "Mae eisoes wedi tystio i’w allu i gyflawni hynny. I bobl Cymru, gwaetha’r modd, nid yw eu perfformiad presennol yn ddigon da.”

Mae’r Pwyllgor yn galw am y canlynol:

  • Dŵr Cymru i egluro sut mae’n cynllunio ar gyfer pwysau hinsawdd yn y dyfodol, er mwyn lliniaru digwyddiadau llygredd difrifol.
  • Dŵr Cymru i ymrwymo i osod targed mwy ymestynnol ar gyfer lleihau achosion o lygredd erbyn 2030 ac ymrwymo i uchelgais o beidio â chael unrhyw achosion o lygredd, o fewn yr amser byrraf posibl.
  • Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaharddiad ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig cyn gynted â phosibl.
  • Ofwat i egluro a yw ei adferiad cyflog ar sail perfformiad yn berthnasol i Dŵr Cymru – a sut felly – o ystyried ei statws ‘nid-er-elw’.

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddant yn gweithio i fynd i'r afael ag argymhellion y pwyllgor.

Mewn ymateb dywedodd Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n croesawu adroddiad y Pwyllgor sy’n cydnabod y pwysau cynyddol sy’n effeithio ar y sector dŵr, a Dŵr Cymru’n benodol - ac yn arbennig, effaith y tywydd mwy eithafol yn sgil newid hinsawdd, a’r angen am gynyddu’r buddsoddiad yn sylweddol wrth sicrhau bod biliau’n dal i fod yn fforddiadwy i gwsmeriaid.

“Rydyn ni wedi bod yn siomedig iawn â’n perfformiad diweddar, ond rydyn ni wedi cymryd camau breision wrth roi’r cynlluniau manwl rydym wedi eu paratoi i gyflawni’r gwelliannau sy’n angenrheidiol ar waith: fodd bynnag nid oes yna unrhyw atebion rhwydd na chyflym. 

“Erbyn diwedd y flwyddyn hon, rydyn ni’n gobeithio y bydd Ofwat wedi cymeradwyo ein cynllun busnes gwerth £3.5bn ar gyfer 2025-2030 - sy’n fwy nag erioed o’r blaen.

"Rydyn ni wrthi’n adolygu manylion yr adroddiad a byddwn ni’n ymateb maes o law”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.