Newyddion S4C

Y Tywysog William i gynnal dyletswyddau brenhinol am y tro cyntaf ers diagnosis canser y Brenin a llawdriniaeth ei wraig

07/02/2024
S4C

Bydd y Tywysog William yn cynrychioli'r Teulu Brenhinol mewn digwyddiad cyhoeddus am y tro cyntaf ers llawdriniaeth ei wraig a diagnosis canser ei dad, y Brenin Charles. 

Bydd yn mynd i ddigwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Llundain nos Fercher.

Fe wnaeth ei wraig, y Dywysoges Catherine adael ysbyty preifat yn Llundain ddydd Llun 29 Ionawr, a dychwelyd i Windsor, ar ôl cael llawdriniaeth ar ei stumog ar 16 Ionawr. 

Yn yr un ysbyty, cafodd y Brenin Charles driniaeth ar gyfer y prostad, gan adael ar yr un diwrnod â'i ferch yng nghyfraith.

Ond union wythnos yn ddiweddarach, cyhoeddodd Palas Buckingham fod y Brenin wedi cael diagnosis canser. Dyw'r math o ganser ddim wedi ei ddatgelu. 

Dyw union fanylion cyflwr y dywysoges ddim wedi eu datgelu. Yn ôl Palas Kensington, mae hi'n dymuno cadw manylion am ei hiechyd yn breifat. 

Cafodd y Brenin Charles ei weld yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers ei ddiagnosis canser, ar ôl iddo adael Clarence House brynhawn Mawrth, ddiwrnod wedi iddo ddechrau ei driniaeth.  

Fe adawodd ei gartref yn Llundain ar ôl cyfarfod â'r Tywysog Harry am gyfnod byr. 

Roedd ei fab ieuengaf wedi teithio yno o'i gartref yn nhalaith California yn America, ar ôl i'r Brenin gysylltu ag e i ddweud fod ganddo ganser.  

Cyrhaeddodd y Tywysog Harry Lundain heb ei wraig Meghan a'u plant, a hynny lai na phedair awr ar hugain ers i Balas Buckingham gyhoeddi'r newyddion am gyflwr iechyd y Brenin. 

Digwyddodd y cyfarfod byr rhwng y Brenin a'r Tywysog Harry wedi perthynas dymhestlog rhwng y ddau yn ddiweddar. 

45 munud barodd y cyfarfod rhyngddyn nhw brynhawn Mawrth.   

Yn fuan wedi hynny, cafodd y Brenin Charles a'r Frenhines eu hebrwng mewn car o'u cartref yn Llundain i Balas Buckingham, cyn cael eu hedfan mewn hofrennydd i'w cartref arall yn Sandringham, Norfolk.

Ac yn ôl ffynonellau, gyda'r berthynas o dan straen, dyw hi ddim yn ymddangos y bydd yna gymodi rhwng y Tywysog Harry a'i frawd William, gyda chyfarfod rhwng y ddau yn anhebygol.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.