22 o ddefaid wedi marw ar fferm yn Llanefydd
Mae 22 o ddefaid wedi marw ar fferm yn Llanefydd ger Dinbych yn Nyffryn Clwyd.
Dywedodd Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru fod hyn wedi digwydd rhywbryd rhwng 18:30 ddydd Llun a 08:30 fore Mawrth.
Does dim anafiadau gweledol i'w gweld ar y defaid ac mae'r heddlu yn amau fod ci wedi mynd i mewn i'r sied a gwthio'r praidd i mewn i gornel a'u cadw yno am dipyn o amser.
Fe gafodd nifer o'r defaid eu mygu yn sgil hyn.
Dywedodd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad ei bod yn bosibl mai ci defaid oedd yn gyfrifol, er nad oes modd cadarnhau hynny.
Ychwanegodd y tîm eu bod yn pryderu y gallai rhagor o ddigwyddiadau tebyg ddigwydd, gan rybuddio ffermwyr yn Llanefydd i fod ar eu gwyliadwraeth.