Newyddion S4C

Prifathrawon sir yn arwyddo llythyr i wrthwynebu toriadau cyllid y cyngor lleol

06/02/2024
Ysgol Dyffryn Conwy

Mae pob prifathro ysgolion un o siroedd y gogledd wedi arwyddo llythyr ar y cyd yn beirniadu'r awdurdod lleol am ei gynlluniau i dorri cyllid ysgolion o rhwng 6% a 10%. 

Bydd y llythyr gan benaethiaid ysgolion Sir Conwy bellach yn cael ei anfon i rieni a gwarcheidwaid disgyblion sy’n mynd i ysgol cynradd, uwchradd ac ysgolion anghenion arbennig yn y sir. 

Mae’r awdurdod lleol eisoes wedi torri cyllid ysgolion o 5% y llynedd, ac fe ddaw’r llythyr wrth i’r cyngor rybuddio am doriadau cyllid pellach eleni.

Mae disgwyl i faint y toriadau gael ei drafod mewn cyfarfod cyngor yn ddiweddarach yn y mis, ond mae rhai cynghorwyr eisoes wedi dweud eu bod yn awyddus i weld toriadau pellach o hyd at 6% o leiaf, gydag eraill yn awgrymu toriadau o 10%. 

Ond mae pennaethiad ysgol wedi rhybuddio y byddai toriadau “sylweddol” o’r fath yn effeithio’r plant mwyaf bregus, gan gynnwys y rheiny sydd angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol.

“Rydyn ni fel prifathrawon Conwy a chyrff llywodraethol yn hynod o bryderus eleni gan fod Awdurdod Lleol Conwy wedi gofyn i ni dderbyn arbedion o rhwng 6% a 10% ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf,” meddai’r llythyr. 

“Mae’n deg i ddweud bod unrhyw doriad i gyllid ysgolion yn mynd i greu sefyllfa hynod o heriol i benaethiaid a chyrff llywodraethol wrth i ni geisio gosod cyllideb gytbwys. 

“Rydyn ni eisiau i rieni a gofalwyr ddeall yr heriau difrifol yr ydym yn eu hwynebu’n llawn. 

“Mae’r sefyllfa ariannol mewn ysgolion bellach yn ddifrifol iawn ac fe fydd toriadau ychwanegol i gyllid ysgolion yn cael effaith sylweddol ar yr hyn rydym yn gallu cynnig i’n disgyblion.”

'Pryderon difrifol'

Mae pennaethiad ysgol eisoes wedi ysgrifennu at weinidog addysg Llywodraeth Cymru er mwyn mynegi eu “pryderon difrifol.”

Ond mae disgwyl i Gyngor Sir Conwy dorri cyllidebau ar gyfer pob math o wasanaethau yn y dyfodol agos wrth i gynghorwyr geisio mynd i’r afael a “thwll du ariannol” werth £25m. 

Ac mae hefyd disgwyl i dreth y cyngor cynyddu hyd at 11% eleni, wedi cynnydd o 9.9% y llynedd. 

Mae’r cyngor wedi dweud mai Llywodraeth Cymru sydd ar fai am y cynlluniau diweddaraf, wedi iddyn nhw dderbyn y setliad lleol isaf yng Nghymru – sef dim ond 2%.

Mae prifathrawon Conwy hefyd wedi rhybuddio y byddai toriadau i’w hysgolion yn golygu bod perygl y gallai nifer o bobl hefyd golli eu swyddi.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae holl gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymwybodol o'r prinder arian y mae'r cyngor yn ei wynebu o ganlyniad i ddyfarniadau cyflog cenedlaethol, chwyddiant, prisiau ynni a thanwydd, a'r galw cynyddol am wasanaethau.

“Yn union fel awdurdodau eraill ledled y DU, bydd angen i’r cyngor leihau ei wariant mewn nifer o feysydd a chodi incwm ychwanegol, sy’n debygol o gael effaith ar lefel y gwasanaethau rydym yn ei ddarparu. 

“Mae’n anochel pan fydd cynghorwyr yn cyfarfod i benderfynu’r gyllideb ar 29 Chwefror, bydd ganddyn nhw benderfyniadau anodd iawn i’w gwneud.”

Llun: Ysgol Dyffryn Conwy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.