Y Tywysog Harry wedi teithio i Lundain yn sgil diagnosis canser y Brenin
Mae’r Tywysog Harry wedi cyrraedd Llundain yn dilyn y cyhoeddiad fod y Brenin Charles III wedi derbyn diagnosis o ganser.
Y gred yw bod y Tywysog Harry, mab ieuengaf y Brenin, wedi teithio ar ei ben ei hun, a bod ei wraig Meghan Markle, wedi aros adref gyda’u dau o blant, Archie, pedwar oed, a Lilibet, dwy oed, yn nhalaith Califfornia, yn yr Unol Daleithiau.
Mae lluniau wedi eu cyhoeddi o'r Tywysog yn cyrraedd Clarence House brynhawn Mawrth, ar ôl cael ei hebrwng o faes awyr Heathrow.
Roedd y Brenin Charles wedi cysylltu’n uniongyrchol â Harry a’i deulu agos i gyd, er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am ei gyflwr, yn ôl adroddiadau.
Mae’r Tywysog Harry wedi byw ym Montecito ers 2020 wedi iddo gymryd cam yn ôl o’i ddyletswyddau gyda’r teulu brenhinol.
Dechreuodd ar ei daith wedi i Balas Buckinham gyhoeddi nos Lun bod y Brenin Charles wedi cael gwybod bod ganddo ganser.
Cafodd y canser ei ddarganfod yn ystod ei driniaeth ddiweddar ar y prostad, ond nid yw wedi cael diagnosis canser y prostad.
Dyw'r math penodol o ganser ddim wedi ei ddatgelu, ond yn ôl datganiad gan y palas, fe ddechreuodd y Brenin ar driniaethau rheolaidd ddydd Llun.
Ychwanegodd Palas Buckingham : "Mae'r Brenin yn dal i deimlo'n gadarnhaol iawn am ei driniaeth, ac yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'w ddyletswyddau cyhoeddus cyn gynted â bo modd."
Treuliodd Y Brenin Charles nos Lun yn ei gartref yn Llundain, Clarence House, ar ôl dechrau ar ei driniaeth canser.
Mae lluniau wedi eu cyhoeddi brynhawn Mawrth o'r Brenin a'r Frenhines mewn car, a'r gred yw bod y ddau ar eu ffordd i'w cartref arall yn Sandringham, Norfolk.
Yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, mae e mewn cyswllt cyson â'r Brenin.
Ychwanegodd fod y Brenin yn ddiolchgar bod y salwch wedi ei "ganfod yn gynnar."
Bu'r Brenin Charles sy'n 75 oed, mewn gwasanaeth eglwysig yn Sandringham ddydd Sul.
Cafodd driniaeth ar gyfer y prostad mewn ysbyty preifat yn Llundain dros wythnos yn ôl.
Ni fydd y Brenin Charles yn ymgymryd â'i ddyletswyddau cyhoeddus tra ei fod yn cael triniaethau ar gyfer y canser, ond yn ôl Palas Buckingham, bydd yn parhau i gyflawni gwaith gweinyddol.
Y Tywysog William
Mae disgwyl i fab hynaf y Brenin, y Tywysog William ail gydio yn ei ddyletswyddau brenhinol ddydd Mercher.
Hwn fydd ei wasanaeth cyhoeddus cyntaf ers i'w wraig, y Dywysoges Catherine gael llawdriniaeth fis diwethaf.
Mae disgwyl iddo fod yn bresennol mewn seremoni yng Nghastell Windsor, cyn mynd i ddigwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Llundain.
Bydd yn ail gydio yn ei ddyletswyddau brenhinol ar ei ben ei hun, yn sgil salwch ei wraig. Does dim disgwyl iddi hi ddychwelyd i'w rôl gyhoeddus tan ar ôl y Pasg.
Ac mae'n ymddangos y bydd y Tywsog William hefyd yn cynrychioli ei dad gyda rhai o'r dyletswyddau oedd ar y gweill ar gyfer y Brenin yn yr wythnosau nesaf.