400,000 o aelwydydd yng Nghymru i dderbyn trydydd taliad costau byw
O ddydd Mawrth ymlaen, fe fydd 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn taliad o £299 i'w cynorthwyo yng nghanol yr argyfwng costau byw.
Fe fydd y taliadau costau byw yn cael eu dosbarthu gan Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
A bydd yr arian yn cael ei roi i bobl ar incwm isel ac sy’n hawlio budd-daliadau, gan gynnwys pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a chredydau treth.
Fe fydd pobl sy'n gymwys yn derbyn y taliad rhwng 6 a 22 Chwefror.
Mae'n un o dri taliad costau byw a fydd yn werth cyfanswm o £900 a hwn fydd y taliad olaf.
Bydd y taliad o £299 ym mis Chwefror yn cael ei wneud yn awtomatig, felly ni fydd angen i bobl sy'n gymwys ymgeisio er mwyn ei dderbyn.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Mel Stride: "Mae'r economi wedi troi cornel, a gyda chwyddiant yn gostwng, rydym ni'n rhoi hwb ariannol i filiynau o'r aelwydydd mwyaf bregus."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies: "Fe fydd mwy na 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn y taliad yn uniongyrchol i'w cyfrif banc er mwyn eu helpu gyda'r argyfwng costau byw."