Cwest yn agor i farwolaeth dyn o Ynys Môn yn Bali
Mae cwest wedi agor i farwolaeth dyn 44 oed o Gaergybi, Ynys Môn, a gafodd ei ddarganfod yn farw yn y môr yn Bali yn nwyrain Asia ar ddydd San Steffan.
Cafodd angladd Steven Burns ei gynnal yr wythnos diwethaf yng Nghaergybi.
Yn y cwest yng Nghaernarfon ddydd Llun, dywedodd y crwner Kate Robertson ei bod hi'n ymddangos iddo foddi.
“Bydd angen aros am dystiolaeth bellach o dramor er mwyn asesu'r amgylchiadau," ychwanegodd.
Bu farw Mr Burns yn Kuta, sy'n ardal boblogaidd i dwristiaid ar ynys Bali.
Cafodd sawl apêl ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol wedi iddo ddiflannu, wrth i'w deulu a ffrindiau ddechrau pryderu amdano.
Cafodd y cwest ei ohirio.
Llun teulu