112 o bobl wedi marw mewn tanau yn Chile
112 o bobl wedi marw mewn tanau yn Chile
Mae o leiaf 112 o bobl wedi marw mewn tanau yn Chile.
Fe gyhoeddodd Arlywydd Gabriel Boric stad o argyfwng ddydd Sul, gan ddweud y byddai yn darparu “pob adnodd angenrheidiol” er mwyn delio gyda’r sefyllfa.
Yn ôl adroddiadau, dyma’r tanau coedwig waethaf yn hanes y wlad.
Roedd nifer o’r bobl a effeithiwyd yn ymweld â’r ardal arfordirol yn ystod eu gwyliau haf.
Mae ysbytai dros dro wedi eu sefydlu ac mae myfyrwyr meddygol yn cael eu cyflogi i helpu lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.
Mae achubwyr wedi ei chael hi’n anodd cyrraedd rhai ardaloedd ac mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gall y nifer sydd wedi marw “gynyddu’n sylweddol”.
Mae llywodraeth Chile wedi annog pobl i beidio â theithio i’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan y tanau.
Llun: Wochit