Newyddion S4C

Teyrnged teulu i Jonathan Jones, cyn-bennaeth Bwrdd Croeso Cymru, sydd wedi marw yn 75 oed

04/02/2024
Jonathan Jones CBE

Mae cyn-bennaeth bwrdd Croeso Cymru Jonathan Jones wedi marw yn 75 oed yn dilyn salwch byr.

Roedd yn brif weithredwr ar Fwrdd Croeso Cymru rhwng 199-2006 cyn cael ei benodi’n gyfarwyddwr twristiaeth a marchnata i Croeso Cymru rhwng 2006-12.

Yn wreiddiol o Grymych yn Sir Benfro, roedd yn frawd i’r ddarlledwraig Jenny Ogwen Williams. 

Fe’i benodwyd yn gyfarwyddwr swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain yn 2012 cyn iddo ymddeol flwyddyn yn ddiweddarach a gweithredu fel ymgynghorydd twristiaeth annibynnol.

Cafodd ei wobrwyo gyda’r CBE yn 2012 am ei wasanaeth i dwristiaeth. Bu’n gysylltiedig gyda threfniadau’r fflam Olympaidd ar ei thaith trwy Gymru cyn gemau Llundain yn 2012.

Roedd yn rhugl yn Ffrangeg ac Iseldireg wedi bod yn gyfarwyddwr Awdurdod Twristiaeth Prydain yn Yr Iseldiroedd rhwng 1977- 1983.

'Caredig'

Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei nai Rhodi Ogwen Williams: “Newyddion trist o’n teulu bach ni heddiw. 

"Roedd Jonathan Jones CBE yn syml yn ‘wncwl Jo’. Roedd yr wncwl gorau, mwy fel brawd mawr. 

"Dyn caredig oedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ddigon ffodus i’w gyfarfod. 

"Jo, diolch i ti am dy gariad, dy gyngor a dy hwyl. Diolch am rhai o’r golf outings gorau erioed. 

"Byddwn ni yd ar goll hebddo ti.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.