Gwyliwch: Anthony Hopkins yn chwarae rhan mascot tîm Wrecsam mewn hysbyseb SuperBowl
Bydd yr actor o Gymru Syr Anthony Hopkins, yn chwarae rhan mascot tîm pêl-droed Wrecsam mewn hysbyseb yn ystod y Super Bowl.
Mae’r hysbyseb ar gyfer cwmni Stōk Cold Brew Coffee sydd yn noddi'r Cae Ras, cartref tîm Wrecsam.
Cafodd darn o’r hysbyseb ei dangos ar raglen Today sianel NBC.
Yn yr hysbyseb mae Syr Anthony Hopkins yn chwarae rhan ‘Wrex y Ddraig’ - mascot tîm Wrecsam.
Inline Tweet: https://twitter.com/TODAYshow/status/1753412982128730152?s=20
“Clywch fi'n rhuo!” meddai cyn gwisgo penwisg y ddraig a rhedeg o amgylch y cae.
“Yn eironig y bragu oer sy’n esgor ar y ddraig danllyd.”
Bydd y Superbowl yn cael ei chwarae rhwng y Kansas City Chiefs a'r San Francisco 49s yn Las Vegas ddydd Sul yr wythnos nesaf.
Mae dangos hysbyseb yn ystod y Superbowl ymysg y cyfleoedd marchnata mwyaf costus yn y byd.