Newyddion S4C

Cymru v Yr Alban: 'Dechrau anodd ond hollbwysig'

03/02/2024
Cymru v yr Alban

Fe fydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un "anodd ond hollbwysig" yn ôl y sylwebydd rygbi Gareth Charles. 

Mae ymddeoliadau ac anafiadau wedi hoelio'r penawdau wrth arwain at y bencampwriaeth, gyda Jac Morgan, Dewi Lake, Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Ken Owens, Taulupe Faletau, Leigh Halfpenny, Dan Biggar, Liam Williams, Gareth Anscombe a Dan Lydiate i gyd bellach ddim yn rhan o'r garfan. 

Cyhoeddodd Louis Rees-Zammit y byddai'n gadael rygbi a thîm Cymru er mwyn ceisio ymuno â’r NFL.

Ni fydd George North ar gael i chwarae ddydd Sadwrn chwaith, a hynny oherwydd anaf. 

Yn 21 oed, Dafydd Jenkins fydd yr ail gapten ieuengaf erioed i arwain Cymru ddydd Sadwrn. 

Dywedodd y sylwebydd rygbi Gareth Charles wrth Newyddion S4C: "Fydd hi'n anodd iawn, does dim unrhyw amheuaeth am hynny. 

"O ystyried bod bron i hanner y garfan o 23 sy'n chware penwythnos 'ma gyda llai na 10 cap - does bron dim profiad o gwbl 'na yn erbyn tîm sefydlog Yr Alban. 

"Ond ma' pethe yn mynd mewn cylchoedd am bedair blynedd nawr ar ôl bob Cwpan y Byd, felly mae'r ail-adeiladu wedi dechre yn barod a fi'n credu bod pawb yn ystyried bod isie bach o amynedd a bod ein disgwyliade ni ddim yn rhy uchel."

'Tymor hir ac anodd'

Fe fydd Cymru yn chwarae tair gêm gartref yn y Stadiwm Principality yn y bencampwriaeth eleni, yn erbyn Yr Alban, Ffrainc a'r Eidal. 

Ychwanegodd Gareth Charles bod y gêm gyntaf gartref yn erbyn Yr Alban yn hollbwysig er mwyn osgoi gorffen ar waelod y grŵp. 

"Dwi ddim yn gweld Cymru yn ennill yn Iwerddon, yn Twickenham, nac yn curo Ffrainc adre' felly dim ond dwy gêm ma' hwnna yn gadael - y cynta' a'r ola' ac os gollwn ni'r un gynta', allwn ni fod mewn i'r gêm olaf y bencampwriaeth am y llwy bren yn erbyn Yr Eidal a bydde hwnna yn dymor hir ac yn anodd, ond yn sicr mae'n ddechre anodd ond hollbwysig." 

Ond mae'r diffyg profiad ar y fainc i Gymru yn anfantais mawr yn ôl Gareth Charles.

"Ma gyment fwy o brofiad 'da'r Alban yn enwedig pan ti'n edrych ar y fainc, ma' Cymru ar y fainc: Kemsley Mathias, un cap, Keiron Assiratti, dou gap, Teddy Williams, un cap, Alex Mann, dim un cap... felly os yw pethe yn mynd o chwith, sdim neb i ddod 'mlaen, yr unig ddou berson sydd gyda ti yw Elliott Dee a Tomos Williams.

"Mae'r profiad gyda'r Alban, er 'dyn nhw ddim y cryfaf o ran sgrymio, yn y chware' rhydd maen nhw yn wych, ma'u rheng ôl nhw fel arfer dros y parc i gyd a dyna ble mae hi am fod yn brawf mawr i Gymru.

"Fi'n credu bydd yr Alban yn rheoli meddiant siwt gyment, mai prynhawn o amddiffyn fydd hi i Gymru."

'Methu cyflawni yr addewid'

Dydy'r Alban heb ennill yng Nghaerdydd ers 22 o flynyddoedd, ac mae Gareth Charles yn teimlo mai dyma fyddai'r tro gorau ers dipyn iddynt geisio newid hyn.

"Os na fydd yr Alban yn ennill y tro yma, wel pryd maen nhw am ennill? Ma' nhw wedi addo siwt gyment dros y tymhore diwethaf, ag eto, ma nhw wedi methu cyflawni yr addewid 'na," meddai. 

"Gobeithio all Cymru 'ware ar yr amheuon hynny yn gynnar yn y gêm, cael pwyntie cynnar a roi bach mwy o bwyse ar yr Alban hefyd."

'Pencampwriaeth Pwy a Wyr?'

Nid dim ond Cymru sy'n wynebu nifer o newidiadau yn eu rygbi ar hyn o bryd.

Fe fydd Lloegr heb Owen Farrell, Ollie Lawrence, Courtney Lawes a Marcus Smith tra fydd Iwerddon yn chwarae heb Johnny Sexton, Gary Ringrose a Mack Hansen.

Ni fydd Stuart Hogg yn chwarae i'r Alban, na Blair Kinghorn ac fe fydd Ffrainc heb Antoine Dupont a Romain Ntamack.

Bydd Yr Eidal yn chwarae o dan arweiniad eu hyfforddwr newydd Gonzalo Quesada.

"Fi'n credu falle bod hon yn 'bencampwriaeth Pwy a Ŵyr?' achos ma' gyment o newidiade drwyddi draw," meddai Gareth Charles.

"O ran pencampwriaeth yn gyfan, pwy bynnag sy'n gallu addasu gyflymaf a gore i'r newidiade ma' nhw'n wynebu.

"I Gymru, os gewn ni ddwy fuddugoliaeth, fi'n credu falle byddwn ni'n gymharol hapus â hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.