Newyddion S4C

Penny Mordaunt wedi ei 'synnu' gan gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ASau

01/02/2024
Penny Morduant

Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin wedi beirniadu'r cynllun i gynyddu nifer yr aelodau yn y Senedd, gan honni y byddai gwneud rhywbeth tebyg yn  San Steffan yn golygu 2,000 o aelodau yno.

Dywedodd Penny Mordaunt ei bod hi wedi ei  "synnu" gan gynlluniau Llywodraeth Cymru, sydd wedi dod i gytundeb gyda Plaid Cymru i gynyddu’r nifer o Aelodau Seneddol o 60 i 96, gan hefyd newid y ffordd maen nhw’n cael eu hethol.

Honodd Ms Mordaunt y byddai newid tebyg yn Nhŷ’r Cyffredin yn golygu cynnydd o 650 ASau i 2,058.

Gwnaeth ei sylwadau mewn ymateb i gwestiynau’r AS Ceidwadol dros Ynys Môn, Virginia Crosbie.

“Ydy Arweinydd y Tŷ yn cytuno efo fi y dylai Llywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid, flaenoriaethu cynnydd yn nifer yr apwyntiadau meddygol a’r deintydd – nid cynyddu nifer yr Aelodau Seneddol yn syfrdanol o 60%, o 60 i 96?,”  gofynodd Ms Crosbie.

Wrth ymateb, dywedodd Ms Mordaunt  nad “mwy o wleidyddion”  oedd eu hangen er mwyn gwella’r gwasanaethau iechyd yng Nghymru, ond “mwy o feddygon teulu.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai’r newidiadau yn “cryfhau democratiaeth” y wlad.

“Cymru yw’r wlad sy’n cael ei thangynrychioli'r fwyaf yn y DU.

“Ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y sefyllfa’n waeth gan dorri nifer yr ASau o Gymru o 40 i 32 yn yr etholiad cyffredinol nesaf,” meddai.

“Fe fydd y newidiadau yma – sy’n cael eu trafod gan aelodau’r Senedd ar hyn o bryd – yn sicrhau Senedd fodern gyda mwy o allu i gynrychioli pobl Cymru yn well, gyda mwy o gapasiti i graffu, creu deddfau, a chadw’r llywodraeth yn gyfrifol.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.