Newyddion S4C

Ffilm newydd yn Gymraeg sy'n trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol

01/02/2024

Ffilm newydd yn Gymraeg sy'n trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol

Digon yw Digon ydy neges rhai o bobl ifanc Cymru wrth drafod ymddygiad gwrthgymdeithasol.

A dyna enw'r ffilm newydd sbon sy'n trafod yr union broblem yma.

Roedd chwarae hogyn lle oedd o i fyny i gael hwyl yn cŵl ac yn fun.

Yn slow bach, oedd y stori a'r cymeriad yn newid. Roedd o'n neis chwarae character oedd ddim jyst yr ochr drwg ond yn gweld yr ochr da o'r stori hefyd.

Mwya mae'r ffilm yn mynd on, y mwya mae'n sylwi bod o angen help.

Tua diwedd y ffilm, mae'n siarad efo'r athrawon a'r local policing i weld be mae'n gallu neud i sortio'i hun allan.

Roedd o'n hwyl i fod yn rhywbeth sy'n cael ei dangos i'r ysgolion.

Mae'n gallu bod fel influence dda iddyn nhw dyfu fyny'n dda.

Mae'r ffilm yn codi ymwybyddiaeth o ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r effaith yna ar gymunedau.

Mae'r ffilm yn cynnwys actorion ifanc lleol fydd yn ganolbwynt mewn gwers gan Swyddogion Heddlu Ysgolion i  bobl ifanc ar draws Cymru.

Beth sydd gyda ni yw Swyddogion Heddlu ynghlwm a phob ysgol Cymru.

Rhan o'i gwaith yw mynd i'r ysgolion, cynnal sesiynau i son am bethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu'r plant a phobl ifanc a chreu perthynas pwysig gyda nhw.

Ond pam fod y ffilm yma mor bwysig?

O edrych ar y ffigyrau troseddu mewn naw ardal yng Nghymru a Lloegr Cymru ydy'r trydydd uchaf ar y rhestr honno gyda 54,200 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi'u hadrodd.

Mae'r ffigwr yna'n dal i gynyddu. Mae gan Heddlu'r Gogledd gynlluniau yn barod i ymdrin â'r problemau sydd wedi arwain at ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae yn cael effaith ar ein cymunedau. Mae cael plant i ddeall bod pethau bach fatha "knock door run" yn dod o dan ymddygiad gwrthgymdeithasol a dim jyst torri'r gyfraith.

Er bod torri'r gyfraith yn rhan ohono mae pethau bach fel 'na'n cael effaith ar bobl.

Achosion o ymddygiad o'r fath yn anodd i'w osgoi felly.

Ond wrth rannu'r ffilm a'r wers yma gyda disgyblion Cymru y bwriad yw ymdrin ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu cymunedau ar draws y wlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.