Newyddion S4C

Cyflwyno cymwysterau galwedigaethol newydd yng Nghymru

01/02/2024

Cyflwyno cymwysterau galwedigaethol newydd yng Nghymru

Dosbarth arlwyo yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.

Un o gannoedd o wahanol gyrsiau ymarferol sy'n cael eu cynnig i ddisgyblion Cymru.

Y bwriad yw sicrhau bod y fwydlen yn gliriach yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â TGAU, fe fydd 'na un enw i gymwysterau galwedigaethol i ddisgyblion 14 i 16 - y TAAU.

A'r enw wedi ei ddewis i bwysleisio eu bod nhw o'r un gwerth a TGAU.

Dw i'n mwynhau Busnes oherwydd mae o'n cynnig rhywbeth gwahanol mewn gwersi oherwydd mae o'n rhoi llai o bwysau arnom ni i jyst sgwennu drwy'r amser.

Mae o'n gadael i fi ddefnyddio sgiliau creadigol oherwydd dw i'n cael neud ymchwilio i fewn i busnesau fy hun.

Dw i'n cael creu busnes fy hun erbyn diwedd y cwrs.

Felly, dw i'n meddwl bod o'n gadael i fi ddewis be dw i isio neud.

Dw i'n meddwl fod newid o i TAAU yn mynd i glirio pethau fyny oherwydd fydd o'n debyg i TGAU felly mae pawb yn deall fod o'r un werth a TGAU ond ei fod o wedi'i asesu mewn ffordd gwahanol.

Hefyd fel rhan o'r cynllun fe fydd cymwysterau sylfaen newydd yn cael eu cynnig i'r rheiny sy ddim yn barod am TGAU neu TAAU yn ogystal ag unedau byr ar sgiliau gwaith a bywyd.

Hyd yma, mae'r cynlluniau wedi'u croesawu ond fe fydd yna gwestiynau
ynglŷn a'r gweithredu yn bennaf am y gost ac unrhyw faich gwaith ychwanegol i athrawon.

Fe fydd rhai hefyd eisiau sicrwydd y bydd y cymwysterau yma sydd i Gymru'n unig, a'r un gwerth dros y ffin os yw disgybl yn symud yno i weithio neu astudio.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles bore 'ma bod e'n hyderus na fyddai hynny'n broblem.

Mae pennaeth Ysgol Glan y Môr yn Pwllheli'n croesawu'r cynllun.

Mae 'na gymaint o amrywiaeth ohonyn nhw mae 'na gymaint o labeli gymaint o enwau
i'r gwahanol gymwysterau felly mae'r drefn 'di bod braidd yn ddryslyd ar adegau.

Mae'r syniad gan Gymwysterau Cymru o ail-frandio a dod a'r cymwysterau
galwedigaethol i gyd i mewn dan label TAAU, sydd yn cyfateb ac yn gyfystyr a TGAU yn mynd i fod yn neud y sgwrs yn llawer iawn haws i ni.

Yr addewid yw y bydd y cymwysterau newydd yn ateb gofynion cyflogwyr yn well.

Mae cwmni Ogi'n darparu band eang ac yn edrych am sgiliau tu hwnt i'r academaidd.

Ers y pandemic, mae'r byd 'di newid.

'Dan ni'n chwilio am sgiliau gwahanol dyddiau 'ma.

Fan'ma yn Ogi, 'dan ni'n chwilio am beirianwyr pobl sy'n gallu ymarfer data pobl sy'n gallu diogelu ni o ran cyber security ac yn y blaen.

Mae angen sgiliau gwahanol arnom ni dyddiau yma.

Fe fydd y cyrsiau'n cael eu cynnig am y tro cyntaf ymhen tair blynedd.

Fydd hi'n gliriach bryd hynny os yw'r TAAU yn un o'r cynhwysion ar gyfer darparu'r cwricwlwm
newydd yn llwyddiannus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.