Cwmni newydd yn cymryd drosodd y Loteri a'n addo newidiadau
Fe fydd y Loteri Genedlaethol yn cael ei rheoli gan gwmni newydd am y tro cyntaf ers ei lansio 30 mlynedd yn ôl - ac maen nhw'n addo newidiadau.
Fe fydd Allwyn yn disodli Camelot fel gweithredwr y Loteri, gan fabwysiadu y slogan newydd 'Ai chi fydd nesaf?'
Mae gwaith cynnal a chadw wedi bod yn digwydd ers 23:00 nos Fercher, gyda disgwyl i docynnau gael eu gwerthu fel yr arfer o 08:30 ddydd Iau.
Dywedodd y Comisiwn Gamblo eu bod wedi bod yn "gweithio yn hynod o galed" gydag Allwyn, Camelot a Llywodraeth y DU i sicrhau fod y trosglwyddiad yn un llwyddiannus.
Dywedodd cadeirydd Allwyn UK Justin King: "Rydym yn falch iawn o fod y gweithredwr newydd ar gyfer y Loteri Genedlaethol. Mae'n fraint ac yn gyfrifoldeb yr ydym ni'n ei gymryd o ddifrif."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gamblo Stuart Andrew: "Mae pobl ar hyd a lled y wlad wedi bod yn chwarae'r Loteri Genedlaethol ers bron i 30 o flynyddoedd ac fe fydd yn parhau i fod yn un o hoff weithgareddau adloniant y genedl.
"O wasanaethau iechyd meddwl a chynnal treftadaeth a’r celfyddydau, i gefnogi ein Olympiaid a’n Paralympiaid, bydd y Loteri Genedlaethol yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau miliynau."
Newid
Dywedodd pennaeth y cwmni yn y DU, Andria Vidler eu bod nhw eisiau gwneud newidiadau mawr ond byddai rhaid disgwyl nes y flwyddyn nesaf.
Dywedodd hefyd y bydd oedi i'r gemau newydd oedd y cwmni yn gobeithio eu cyflwyno yn 2024 yn cael effaith ar werthiant ac yn cyfyngu ar faint o arian y gall ei roi i achosion da yn gynnar yn ei drwydded 10 mlynedd.
Ond bydd ambell newid dros y flwyddyn nesaf gan gynnwys cardiau crafu newydd, meddai.
Mae ei addewid gwreiddiol o haneru pris tocyn loteri o £2 i £1 hefyd o dan adolygiad.
Fe fydd y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed ym mis Tachwedd.