Newyddion S4C

'Poeni am ddyfodol y clwb': Tîm rygbi ger Port Talbot yn wynebu ei 'her fwyaf eto'

01/02/2024
aberavon harlequins.png

Mae tîm rygbi ger tref Port Talbot wedi dweud eu bod yn wynebu eu "her fwyaf eto" wedi'r cyhoeddiad y bydd miloedd o swyddi yn cael eu colli yng ngwaith dur y dref.

Bydd 2,800 o swyddi yn cael eu colli yng ngwaith dur Tata Steel, gyda dros 300 o swyddi eraill yn diflannu yn y dyfodol.

Mae'r Aberavon Harlequins wedi bod yn ganolog i'r gymuned ers tua 130 o flynyddoedd, gan feithrin chwaraewyr rhyngwladol a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol  ar hyd y blynyddoedd.

Mae'r cynghorydd sir lleol dros Aberafan Andrew Dacey yn is-gadeirydd y clwb, ac yn dweud ei fod yn pryderu y bydd cau'r gwaith dur yn cael effaith dorcalonnus ar bob agwedd o fywyd, gan gynnwys timau chwaraeon lleol.

"I ddechrau, fe fydd yna lai o arian yn yr ardal, sy'n golygu fydd y clwb yn dioddef oherwydd fydd gan pobl lai o arian i ddod i gael diod, a gallai llawer o'n noddwyr rygbi sydd yn fusnesau lleol a bach sy'n gysylltiedig â'r gwaith dur gael eu heffeithio hefyd," meddai.

"Maen nhw'n noddi gemau a dyna sy'n cadw ni fynd ynghyd â'r grant bach gan Undeb Rygbi Cymru. 

"Gyda'r cyhoeddiad rydym yn poeni y gallwn ni gael trafferthion gyda noddwyr, enillion yn y bar, a hyd yn oed dyfodol chwaraewyr yn y dyfodol os ydyn nhw yn gorfod symud i ffwrdd yn sgil gwaith.

"Unwaith y mae'r tri ffactor hwn yn dechrau cael effaith, yna dwi'n poeni am ddyfodol y clwb, ac fe fyddai hynny yn cael effaith ofnadwy ar y gymuned."

Image
Josh Pugh
Josh Pugh

'Canolog'

Mae'r garfan bresennol yn y clwb yn cynnwys o gwmpas 14 o chwaraewyr sydd unai yn gweithio yn uniongyrchol i'r gwaith dur neu mewn rôl arall yn gysylltiedig â'r safle.

Mae Josh Pugh, 33, yn un o'r rhain, ac mae wedi cael gwybod y bydd yn un o'r gweithwyr a fydd yn colli eu swydd.

"Mae'n mynd i effeithio pawb yn yr ardal. Bob tîm rygbi a phêl-droed oherwydd gyda'r gwaith dur yn mynd, fe fydd pawb yn gorfod edrych y tu allan i Port Talbot am waith," meddai.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Mark Gregory: "Mae'r clwb wedi bod yn ganolog i fywyd llawer o bobl yn y gymuned pan oeddwn i'n tyfu fyny, ac i mi fel cadeirydd rwan, mae'n dangos nad oes unrhyw beth wedi newid."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.