Newyddion S4C

Chris Packham: 'Bygythiadau cyson' am drio gwarchod bywyd gwyllt

Chris Packham

Mae cyflwynydd rhaglenni teledu natur poblogaidd wedi mynegi ei sioc fod pobl wedi bod yn ei fygwth a cheisio ymosod arno oherwydd ei waith cadwraeth.

Roedd Chris Packham, sy'n un o sêr y gyfres Winterwatch yn siarad ar raglen Loose Women ar ITV ddydd Mercher am y “bygythiad cyson” y mae’n ei wynebu, a hynny am ei fod yn gwneud rhywbeth sydd mor bwysig iddo.

Dywedodd Mr Packham ei fod wedi derbyn nifer  negeseuon bygythiol, a bod yr holl beth yn "syndod mawr" iddo fod pobl yn teimlo mor flin am geisio codi "ymwybyddiaeth am y byd o'm cwmpas".

'Lle od'

Mae Mr Packham wedi cyhoeddi llyfr i blant yn ddiweddar - 'Superhero Animals', gyda'r gobaith o ysbrydoli darllenwyr ifanc i barhau â’r gwaith pwysig o warchod yr amgylchedd – ond dywedodd nad oedd pawb yn teimlo’r un ffordd.

Pan ofynnwyd iddo am y bygythiadau y mae wedi'u derbyn, dywedodd Mr Packham: "Mae'n le od i fod. Rydw i a phobl fel fi yn codi bob dydd ac rydym am wneud y byd yn lle gwell i fywyd gwyllt ac i bobl. 

"Roeddwn i'n meddwl y byddai hynny'n rhywbeth da i fywyd gwyllt ac i bobl.

"Ond mewn gwirionedd, mae yna lawer o bobl sydd â buddiannau busnes ac ati ac maen nhw eisiau cadw at eu harferion gwael rhag colli arian, ac maen nhw'n gweld pobl fel fi yn wrthwynebydd. 

"Yn anffodus, mae lleiafrif bach iawn o'r bobl hynny yn tueddu i ffraeo.

"Y rheswm fy mod i'n gofyn iddyn nhw newid eu meddwl yn gyflymach nag y maen nhw eisiau a'r rheswm rydw i'n gofyn yw bod yna frys gwirioneddol i wneud hynny."

Swyddogion Diogelwch

Mae Mr Packham hefyd wedi dweud ei fod wedi gorfod cael swyddogion diogelwch i'w warchod ar gyfer Winterwatch, ar ôl derbyn bygythiadau penodol.

Fe ychwanegodd: “Rydyn ni wedi cael sawl bygythiad yn ddiweddar nad ydyn nhw'n fygythiadau i'm lladd, ond maen nhw'n dweud pethau fel; 'rydyn ni'n mynd i'ch niweidio chi a niweidio'ch teulu' ... rydyn ni wedi cael dau yn ystod y mis diwethaf.

Yn 2019, gofynnodd trefnwyr gŵyl Dogstival i Mr Packham dynnu’n ôl o ymddangosiad yno oherwydd iddo gael ei dargedu gan rai pobl yn dilyn ei ran mewn ymgyrch gwrth-saethu.

Llun: ITV

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.