Athrawon yn 'dal plant saith oed' gyda fêps mewn ysgolion
Mae athrawon yn dal plant mor ifanc â saith oed gyda fêps mewn ysgolion, ac mae pennaeth un ysgol wedi rhybuddio nad yw cosb yn unig yn ddigon i fynd i’r afael â’r “ffrwydrad” yn nefnydd y teclynnau gan ddefnyddwyr ifanc.
Mae'n anghyfreithlon i bobl o dan 18 oed brynnu E-sigarets, ond mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod un o bob pum disgybl mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi arbrofi gyda fêps, gydag un o bob 20 yn eu defnyddio'n rheolaidd.
Dywedodd Richard Owen, pennaeth Ysgol Idris Davies yn Rhymni, wrth gynghorwyr Cyngor Caerffili fod poblogrwydd fêps wedi “cynyddu’n sylweddol” mewn ysgolion “dros y blynyddoedd diwethaf” a'i fod yn “llawer haws” i ddisgyblion eu prynu na sigaréts.
Daw ei sylwadau'r un wythnos a'r cyhoeddiad gan wleidyddion eu bod am ei gwneud yn anoddach i bobl ifanc brynu cynnyrch sydd yn cynnwys nicotin.
Mae'r camau'n cynnwys gwahardd gwerthu nwyddau sy'n cynnwys nicotin i bobl sydd wedi eu geni ar ôl 2009, a phecynnau fêps.
Targedu plant
Dywedodd Mr Owen wrth bwyllgor sgriwtini addysg y cyngor ddydd Mawrth ei fod yn "bryder" bod y cynnyrch yn ymddangos fel ei fod wedi ei dargedu at blant, gan gynnwys blasau a lliwiau deniadol fel candi fflos a cola.
Ychwanegodd bod "cynnydd sylweddol" wedi bod y nifed y plant oedd yn defnyddio fêps yn ystod amser egwyl, gan gynnwys yn ystod cyfnod pan oedd disgyblion i fod yn eu gwersi yn fwy diweddar.
Roedd ysgolion wedi eu gorfodi i osod "larymau fêps" mewn toiledau, gydag adroddiadau bod rhai disgyblion yn mynd am "doriad i'r tai bach" hyd at 15 gwaith y dydd i ddefnyddio fêps.
Mae hyn yn amharu ar ddysgu, yn ogystal â chynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y toiledau, meddai Mr Owen wrth gynghorwyr – gan ychwanegu, er bod defnydd yn fwy cyffredin ymhlith disgyblion hŷn, ei fod “bellach yn dechrau ymledu i Gyfnod Allweddol 2”.
Cosb
Roedd cosbi’r rhai sy’n cael eu dal yn annhebygol o newid eu hymddygiad, meddai, gan egluro bod ei ysgol yn ceisio addysgu disgyblion sy’n aml gyda cham-wybodaeth am risgiau e-sigarets.
Daeth sigaréts electronig yn boblogaidd gyntaf ymysg ysmygwyr a oedd am roi'r gorau i'r arferiad.
Mae cyngor y GIG yn dweud bod ysmygu anwedd yn “sylweddol llai niweidiol” nag ysmygu sigaréts.
Dywedodd Mr Owen fod “llawer o gamddealltwriaeth” yn codi o’r negeseuon hyn ymhlith pobl ifanc, sy’n gweld fêps mewn goleuni “positif”.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahardd fêps tafladwy “oherwydd eu heffeithiau amgylcheddol sylweddol” a'u defnydd gan bobl ifanc dan oed.
Mae nifer y plant sy’n defnyddio'r teclynnau wedi “treblu yn ystod y tair blynedd diwethaf”, meddai’r dirprwy weinidog lles Lynne Neagle.
Llun: PA