Newyddion S4C

Martin Bashir yn hawlio mai 'hiliaeth' a 'chenfigen' oedd sail yr ymateb wedi cyfweliad Diana

31/01/2024
Bashir/Diana

Mae’r cyn newyddiadurwr Martin Bashir wedi dweud bod honiadau iddo dwyllo er mwyn sicrhau cyfweliad gyda Diana, Tywysoges Cymru, yn gysylltiedig â hiliaeth a chenfigen broffesiynol.

Roedd honiadau i Mr Bashir ddangos cyfriflenni banc ffug i frawd Diana, Iarll Spencer, er mwyn cael mynediad at ei chwaer.

Mae dogfennau wedi eu cyhoeddi sy'n awgrymu fod Martin Bashir yn credu bod yr honiadau yn ei erbyn yn gysylltiedig â lliw ei groen, ac na fyddai'r sefyllfa wedi codi "petai’n newyddiadurwr fel David Dimbleby."

Cafodd y BBC orchymyn gan farnwr fis Rhagfyr diwethaf i gyhoeddi oddeutu 3,000 o ddogfennau, gan gynnwys e-byst mewnol mewn cysylltiad â’r cyfweliad a gafodd ei gynnal yn 1995.

Yn y casgliad o ddogfennau, mae e-bost gan Martin Bashir a gafodd ei ysgrifennu yn 2020, ychydig o fisoedd cyn i raglen Panorama'r BBC ddatgelu'r honiadau fod y newyddiadurwr wedi twyllo er mwyn sicrhau'r cyfweliad gyda'r Dywysoges Diana yn 1995.

Fe nododd y dywysoges yn y cyfweliad ffrwydrol hwnnw fod "tri o bobl yn fy mhriodas." 

Yn ei e-bost ar 20 Gorffennaf 2020, mae Martin Bashir yn dweud wrth un o benaethiaid y BBC, Robert Seatter, nad oedd dogfennau ffug wedi chwarae unrhyw rôl wrth iddo sicrhau cyfweliad gyda'r Dywsoges Diana.

"Cythruddo "

“Rwy’n flin iawn i glywed bod y stori ‘ffugio’ yma wedi ymddangos unwaith eto,” meddai.

“Nid yw hynny wedi chwarae unrhyw rôl wrth sicrhau’r cyfweliad, ond mi achosodd genfigen broffesiynol oddi mewn i’r sefydliad.

“Ar y pryd, roedd hi'n amlwg bod pobl wedi’u cythruddo gan y ffaith bod mewnfudwr ail genhedlaeth gyda gwreiddiau dosbarth gweithiol, heb liw croen gwyn yn ddigon mentrus i fynd i mewn i Balas Brenhinol a chynnal cyfweliad.”

Roedd Mr Bashir wedi cael cais am ddatganiad wedi i Robert Seatter o'r BBC dderbyn cais i ryddhau deunydd archif yn gysylltiedig â'r cyfweliad. 

Bu'r ddau'n cyfathrebu â'i gilydd ychydig cyn i raglen ddogfen ITV The Diana Interview: Revenge Of A Princess gael ei darlledu yn 2020. Ar y rhaglen honno, dywedodd y dylunydd graffeg, Matt Wiessler, iddo ffugio dogfennau ar orchymyn Mr Bashir.

Ymddiheurodd y BBC wedi’r rhaglen, gan gytuno ar setliad ariannol gyda Mr Wiessler.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC ddydd Mawrth nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r honiadau bod y darlledwr wedi camymddwyn yn 2020.

“Rydym wedi derbyn ac ymddiheuro pan fo camgymeriadau wedi’u gwneud ac wedi cymryd camau helaeth i wneud yn iawn am hynny," meddai'r darlledwr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.