Newyddion S4C

'Dadleuol ond angenrheidiol': Cau pont droed yn Aberaeron am hyd at flwyddyn

30/01/2024
Aberaeron

Gallai pont bren dros afon Aeron yn Aberaeron fod ar gau am flwyddyn tra bod gwaith ar gynllun amddiffynfeydd llifogydd y dref yn cael ei gwblhau.

Fis Awst diwethaf, cyhoeddwyd bod gwaith i amddiffyn Aberaeron rhag llifogydd gyda chynllun newydd i amddiffyn yr arfordir wedi sicrhau cyllid o bron i £27m gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu morglawdd craig sy’n ymestyn allan o Bier y Gogledd, adnewyddu ac ailadeiladu pen pier Pier y De, adeiladu waliau llifogydd, adeiladu giât llifogydd yn harbwr mewnol Pwll Cam a gwelliannau i’r amddiffynfeydd presennol ar Draeth y De. 

Cymeradwywyd y cynllun ei hun yng nghyfarfod mis Chwefror 2023 o Bwyllgor Rheoli Datblygu Cyngor Sir Ceredigion, gyda BAM Nuttall Ltd yn gontractwyr adeiladu ar y cynllun.

Dywedodd datganiad gan BAM Nuttall Limited cyn i’r gwaith ddechrau’n ddiweddar: “Rydym eisiau tarfu cyn lleied â phosibl a chadw Aberaeron i symud.

“Fel gydag unrhyw brosiect seilwaith mawr, bydd llawer o waith adeiladu yn digwydd o amgylch y dref yn ystod y prosiect.

“Rydym wedi meddwl llawer am sut i leihau aflonyddwch, ond mae’n anochel y byddwn yn cael rhywfaint o effaith ar deithio yn y dref.”

Ers hynny, mae pryderon wedi’u codi am ba mor hir y byddai’r bont droed bren yn harbwr Pwll Cam ar gau tra bod gwaith ar yr amddiffynfeydd yn cael ei wneud.

Dywedodd Cynghorydd Sir Aberaeron ac Aberarth Elizabeth Evans ei bod wedi derbyn llawer o gwestiynau gan y cyhoedd am hyd y cyfnod cau, gan gysylltu â BAM Nuttall am ymateb.

Rhannodd y Cynghorydd Evans ddatganiad gan BAM, a oedd yn dweud: “Fel rhan o’n gwaith amddiffyn rhag llifogydd, byddwn yn cau’r bont droed i gerddwyr dros afon Aeron dros dro ar gyfer gwaith hanfodol yn yr harbwr.

“Bydd dargyfeiriad ar gael ar yr A487 ar hyd Stryd y Bont o ddydd Llun, Ionawr 29.

“Bydd cyflenwadau craig o chwareli lleol yn dechrau cael eu dosbarthu o Ionawr 29.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Evans: “Bydd y bont ar gau am hyd at flwyddyn. Mae hyn er diogelwch y cyhoedd, ac i atal mynediad anawdurdodedig i'r safle gwaith. Rwy'n deall ei fod yn rhwystredig ond mae'n angenrheidiol. Mae'r ysgol gynradd ac uwchradd wedi cael gwybod.

“Rwy’n deall ei fod yn ddadleuol, ond mae’n angenrheidiol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.