Newyddion S4C

Pennaeth cwmni Iceland o Sir y Fflint yn newid i gefnogi Llafur

29/01/2024
Iceland

Mae pennaeth cwmni cadwyn archfarchnad sydd â'i bencadlys yng ngogledd Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth wleidyddol i Lafur, gan ddweud mai’r blaid oedd y “dewis cywir” i fusnes a phleidleiswyr.

Gadawodd Richard Walker, cadeirydd gweithredol cwmni Iceland, y blaid Geidwadol fis Hydref diwethaf.

Roedd yn arfer bod yn rhoddwr ariannol i'r Ceidwadwyr ond nawr mae Mr Walker wedi newid ei gefnogaeth i blaid Syr Keir Starmer.

Wrth ysgrifennu yn The Guardian, dywedodd: “Llafur yw’r dewis iawn i’r cymunedau ar draws y wlad lle mae Iceland yn gweithredu – a’r dewis iawn i bawb mewn busnes sydd eisiau gweld y wlad hon yn tyfu ac yn ffynnu.”

Aeth ati i ganmol Syr Keir am “drawsnewid” ei blaid yn sgil arweinyddiaeth Jeremy Corbyn a dywedodd fod arweinydd Llafur yn deall y pwysau sy’n wynebu cartrefi.

Ysgrifennodd Mr Walker fod yr arweinydd Llafur yn “dangos tosturi a phryder tuag at y rhai llai ffodus sy’n cyferbynnu’n ffafriol iawn ag agwedd y rhan fwyaf o’i wrthwynebwyr”.

“Mae’n deall yn llwyr pan fyddaf yn siarad ag ef am y ffordd y mae’r argyfwng costau byw wedi rhoi straen annioddefol ar gyllid cymaint o fy nghwsmeriaid a’u teuluoedd, a’r angen dybryd am lywodraeth sy’n gwneud popeth o fewn ei gallu i lleddfu eu baich.”

Tra bod Mr Walker wedi dweud y byddai'n cefnogi Llafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, dywedodd nad oedd am fod yn aelod o'r blaid.

Llun: PA

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.