Vaughan Gething yn addo mwy o ofal plant am ddim pe bai'n Brif Weinidog
Mae Vaughan Gething wedi addo ehangu cynlluniau gofal plant am ddim yng Nghymru pe bai iddo gael ei ethol yn Brif Weinidog.
Ag yntau’n gweinidog yr economi Llywodraeth Cymru, mae'n un o ddau ymgeisydd ynghyd â'r gweinidog addysg Jeremy Miles yn y ras am arweinyddiaeth y blaid Lafur.
Daw’r cyhoeddiad wrth iddo lansio ei faniffesto yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam ddydd Sadwrn, gan addo rhoi “dechreuad cryf i holl blant Cymru.”
Dywedodd ei fod am weld rhieni yn parhau i allu “gweithio neu ddysgu fel y mynnant” – heb i gostau gofalu plant gorfod eu “dal yn ôl.”
“Byddwn yn rhoi dechreuad cryf i holl blant Cymru, waeth beth fo’u cefndir, tra hefyd yn galluogi rhieni i weithio neu ddysgu fel y mynnant.
“Ni ddylai costau gofal plant fod yn dal pobl yn ôl.
“Rydym yn ymrwymo i ehangu ein cynnig gofal plant wrth i gyllid ddod ar gael,” meddai.
'Addysg Gymraeg'
Gyda’r nod o ganolbwyntio ar y 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn, dywedodd hefyd ei fod eisiau hybu cyfleoedd addysg, gan gynnwys yn y Gymraeg, ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oed.
Dywedodd y byddai’n cydweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni i hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Gymraeg ac i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae’n hefyd yn awyddus i fynd i’r afael ym “mwlch gyrhaeddiad” rhwng ieuenctid cyfoethocaf a thlotaf Cymru, yn ogystal â mynd i’r afael ag absenoldeb a gwella ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd ei fod am weld diwedd i’r effaith negyddol cafodd cyfnod y pandemig ar blant a’u haddysg hefyd.
“Rydym am weld ysgolion Cymru yn darparu rhagoriaeth cyson mewn addysg i’n plant a’n pobl ifanc,” mae’n ysgrifennu yn ei faniffesto.
Mae hefyd eisiau gweld cynnydd yn nifer y prentisiaethau sydd ar gael yng Nghymru, gan addo “pwmpio cronfeydd” newydd, yn lle rhai yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn cynyddu eu hargaeledd.
Ras yr arweinydd
Mae Mr Gething wedi’i gefnogi gan sawl undeb yn ei ras arweinyddol hyd yma, gan gynnwys GMB, Unite, CWU, Usdaw a Community.
Ond fe ddaw ei faniffesto diwrnod yn unig wedi i’w gyd-ymgeisydd, Jeremy Miles, codi cwestiynau am y modd y penderfynodd undeb Unite i enwebu Mr Gething.
Dydd Gwener, dywedodd Jeremy Miles bod nifer o fewn yr undeb yn “anhapus iawn” am y modd y penderfynodd undeb Unite enwebu Vaughan Gething, gydag aelodau wedi codi cwestiynau ynglŷn â pham na chafodd pleidlais o’r aelodaeth ei chynnal.
Cyhoeddodd Unite ar 24 Ionawr eu bod nhw am enwebu Vaughan Gething fel arweinydd newydd Llafur Cymru.
Mae undeb Unite eisoes wedi eu bod nhw’n fodlon bod y broses o enwebu ymgeisydd yn deg.