Newyddion S4C

Barclays yn cadarnhau cynlluniau i gau eu canghennau olaf yng Ngheredigion

26/01/2024
Barclays

Mae’r banc Barclays wedi cadarnhau cynlluniau i gau eu canghennau olaf yng Ngheredigion. 

Bydd cangen Aberystwyth ar Ffordd y Môr yn cau ar 3 Mai eleni, tra bydd cangen Aberteifi ar y Stryd Fawr yn cau ar 26 Ebrill. 

Bydd cangen Hwlffordd yn Sir Benfro hefyd yn cau fel rhan o’r cynlluniau, a hynny ar 10 Mai. 

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Barclays: “Wrth i ymweliadau â changhennau barhau i ostwng, a gyda’r mwyafrif o bobl yn ffafrio bancio ar-lein, mae angen i ni addasu er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau i'n holl gwsmeriaid.” 

Dywedodd y datganiad bod angen i’r banc dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi eu cwsmeriaid yng Ngheredigion a Hwlffordd, gan sicrhau bod gwasanaethau wyneb yn wyneb yn dal ar gael.

Ychwanegodd Barclays eu bod bellach yn bwriadu agor canghennau ‘Barclays Local’ yn yr ardaloedd hynny, sef “safle bancio heb arian parod lle gall cwsmeriaid gwrdd â chydweithiwr wyneb yn wyneb i gael cymorth bancio, fel y byddent mewn cangen.”

Dywedodd y banc eu bod yn cydweithio gyda’r cymunedau ar hyn o bryd er mwyn dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer eu canghennau newydd.

Daw’r cadarnhad wedi i Elin Jones, Aelod Senedd Cymru dros Geredigion, ddweud ei bod wedi derbyn cadarnhad y bydd y ddwy gangen yn Aberystwyth ag Aberteifi'n cau yn ddiweddarach eleni.

Ychwanegodd bod penaethiaid y banc wedi rhoi gwybod i staff am y penderfyniad yn gynharach ddydd Iau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Barclays wedi cau canghennau yn Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Dolgellau a Machynlleth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.