Newyddion S4C

Dragon's Den: Cwynion gan wylwyr am gynnyrch honedig ar gyfer cyflwr ME

26/01/2024
Dragons Den

Mae’r BBC wedi tynnu pennod o Dragons’ Den oddi ar iPlayer ar ôl i bryderon gael eu codi am gynnyrch ar gyfer y cyflwr ME.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod y wraig fusnes Giselle Boxer wedi gwneud “honiadau di-sail” ar y rhaglen, ar ôl iddi gael ei dangos yng nghyfres 21 yn sicrhau buddsoddiad gan yr entrepreneur a’r podledwr Steven Bartlett.

Ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Rydym yn cymryd y pryderon a godwyd o ddifrif, felly rydym yn adolygu’r bennod ac felly nid yw ar gael ar iPlayer ar hyn o bryd.”

Roedd y gorfforaeth wedi amddiffyn y rhaglen yn gynharach, gan ddweud ei bod “yn cynnwys cynhyrchion gan entrepreneuriaid ac nid yw’n eu cymeradwyo” ac mae Ms Boxer yn rhannu “profiad personol a arweiniodd at greu busnes”.

'Hadau clustiau'

Yn y bennod, a ddarlledwyd ar Ionawr 18, dywedodd Ms Boxer ei bod wedi defnyddio “hadau clustiau” i’w helpu i wella o ME, a’i bod wedi troi’r syniad yn gwmni Acu Seeds.

Dywedodd llythyr agored gan elusen Action for ME, at gadeiryddion dau o bwyllgorau dethol Tŷ’r Cyffredin eu bod yn “bryderus iawn” bod y ffordd y cafodd ei chynnig ei gyflwyno yn awgrymu bod y cynnyrch yn “gyfrifol am ei hadferiad ac y dylid ei ystyried felly'n  driniaeth effeithiol”.

Dywedodd yr elusen hefyd ar X, Twitter gynt, fod eu prif weithredwr, Sonya Chowdhury, wedi ysgrifennu at gyfarwyddwr cyffredinol y BBC Tim Davie i leisio “pryderon am y bennod”.

Mae ME yn gyflwr hirdymor gydag ystod eang o symptomau gan gynnwys blinder eithafol, problemau cysgu a phroblemau canolbwyntio, yn ôl gwefan y GIG.

Mae'n nodi, er nad oes iachâd i'r cyflwr ar hyn o bryd, mae triniaethau ar gael a allai helpu i'w reoli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.