Newyddion S4C

Cerydd i AS am awgrymu bod aelodau Senedd Cymru'n 'dwyn bywoliaeth gan y trethdalwr'

25/01/2024
Rob Roberts

Mae aelod seneddol yn San Steffan wedi ei geryddu am awgrymu bod aelodau Senedd Cymru'n "dwyn bywoliaeth gan y trethdalwr."

Roedd Rob Roberts AS, yr aelod annibynnol dros Delyn, wedi ceisio galw am adolygiad o ddatganoli Cymreig yn San Steffan, gan gwestiynu "os oedd pobl Cymru'n hapus o gael datganoli o gwbl."

Ond bu'n rhaid iddo wneud tro pedol wedi ei sylwadau, yn dilyn ymyrraeth gan Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, gan awgrymu'n hytrach bod cwestiwn a oedd aelodau'r Senedd yn ennill cyflog "am beidio gwneud rhyw lawer o waith."

Dywedodd Mr Roberts wrth ASau: " Yn fuan fe fydd hi'n 25 mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cymru, ac felly rydym wedi cael 25 mlynedd o 60 aelod o'r Senedd yn dwyn bywoliaeth gan y trethdalwr tra'n cyflawni dim manteision i bobl Cymru i esbonio eu bodolaeth.

"Yn y Pwyllgor Materion Cymreig yn ddiweddar, nid oedd modd i Ysgrifennydd Cymru (David TC Davies) enwi tair mantais o ddatganoli pan wnes i ei holi."

'Gofalus'

Fe wnaeth y Dirprwy Lefarydd, y Fonesig Rosie Winterton, dorri ar draws yr AS, gan ddweud wrtho: “Dw i’n meddwl bod angen iddo fod yn ofalus gyda’i iaith pan mae’n defnyddio’r gair ‘dwyn’. Efallai ei fod eisiau ailystyried hynny.”

Atebodd Mr Roberts: “Rwy’n ymddiheuro, Madam Ddirprwy Lefarydd. Mae’n bosibl bod aelodau’r Senedd yn cael cyflog am beidio â gwneud llawer o waith. Efallai bod hynny'n ffordd well o'i  ddweud.

“A wnaiff Arweinydd y Tŷ gadarnhau pa adran ddylai fod yn adolygu datganoli a phryd oedd yr adolygiad diwethaf? A gawn ni ddadl i weld a yw pobl Cymru yn hapus gyda datganoli o gwbl?”

Atebodd Penny Mordaunt: “Yr ateb i’w gwestiwn yw mai’r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y cyfansoddiad fydd â’i gylch gorchwyl yn ymdrin â materion o’r fath.

“Mae’r problemau mae’n eu codi yn ymwneud â pherfformiad Llywodraeth Lafur Cymru.

“Rwy’n meddwl mai dyma’r cyfnod hiraf o amser y mae Llafur wedi bod mewn grym, a gallwn weld mewn gwirionedd, o ystyried cyflwr y GIG a’r pethau eraill y mae’n gofalu amdanynt, sut olwg fydd ar yr hyn i ddod gan Lywodraeth Lafur.”

Mae Mr Roberts, gafodd ei ethol yn AS Ceidwadol, bellach yn eistedd fel aelod annibynnol ar ôl i awdurdodau seneddol ganfod ei fod wedi aflonyddu ar aelod o'i staff.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.