Newyddion S4C

Mark Drakeford yn galw ar y Blaid Lafur i ddatganoli pwerau cyfiawnder

25/01/2024
Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw ar y Blaid Lafur i drosglwyddo pwerau plismona i Gymru pe bai nhw'n ennill etholiad cyffredinol.

Dywedodd  Mr Drakeford y byddai gan y Blaid Lafur yn San Steffan “gyfrifoldeb” i ddangos bod y “daith wedi dechrau” tuag at roi mwy o reolaeth i Gymru os ydyn nhw’n ennill yr etholiad eleni.

Yn 2022, dywedodd adroddiad dan arweiniad y cyn-brif weinidog Gordon Brown y dylai llywodraeth Lafur nesaf y DU “ddechrau ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf”.

Ond ni wnaeth yr adroddiad awgrymu datganoli cyfiawnder yn gyffredinol,  ac mae ysgrifennydd Cymreig yr wrthblaid, Jo Stevens, wedi nodi nad yw Llafur yn bwriadu trosglwyddo pŵer dros blismona a charchardai.

'Rhybudd'

Cafodd Mr Drakeford, sydd wedi galw dro ar ôl tro am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder, ei holi am wrthwynebiad San Steffan i'w gynigion yn ystod sesiwn holi ac ateb yn Sefydliad y Llywodraeth.

Dywedodd nad oedd yn disgwyl i  reolaeth dros gyfiawnder troseddol ddod i Gymru i gyd ar unwaith, ond y gallai llywodraeth Lafur newydd gymryd camau tuag at ddatganoli, gan ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf.

“Mae yna rai cydweithwyr yn Llundain sy’n ystyried hyn fel sefyllfa lle mae unrhyw beth sydd yn cael ei ddatganoli yn golled iddyn nhw," meddai.

Ychwanegodd y bydd gan rai ASau bryderon ynglŷn â sut y byddai diwygiadau o’r fath yn gweithio’n ymarferol, ond bod “y cwestiynau hynny, yn enwedig ym maes cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf ac yn wir, yn blismona… yn hawdd iawn eu hateb.”

“Mae pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn gadarn o blaid datganoli plismona.

“Felly eto, mae hyd yn oed pobl sy’n agos at yr ochr weithredol i gyd yn rhannu ein barn,” meddai.

“Rwy’n rhybuddio fy nghydweithwyr yn erbyn safbwynt y Brenin Canute ar y mater hwn. Dim ond i un cyfeiriad y mae’r llanw’n symud.”

'Difaru'

Awgrymodd Mr Drakeford, sydd am ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth, mai ei ofid mwyaf oedd peidio â gwneud newidiadau mwy radical yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog Cymru.

Ychwanegodd mai ei gyngor i’w olynydd fyddai “i fod yn feiddgar”.

“Yr her fwyaf i Lafur Cymru pan rydych chi wedi bod mewn grym fel rydyn ni wedi bod ers bron i 25 mlynedd, yw adnewyddu, a phenderfynu i beidio â gorffwys yn ôl,” meddai.

“Rwy’n meddwl mai’r her i Lafur bob amser yw edrych am y newidiadau radical hynny sy’n angenrheidiol. Efallai fy mod yn meddwl weithiau mai’r hyn rydw i'n ddifaru yw nad oedden ni’n ddigon beiddgar pan gawson ni’r cyfle i fod felly.”

Mewn ymateb. dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur; "Llafur yw'r blaid dros ddatganoli, a rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu statws y Senedd, cryfhau gweithio rhwng llywodraethau, a gwthio grym allan o San Steffan ac i ddwylo cymunedau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.