Newyddion S4C

Gwahardd 'cyllyll gwallgof' wedi ymgyrch gan yr actor Idris Elba

25/01/2024
Idris Elba

Bydd rheolau llymach ar brynu a bod yn berchen ar gyllyll yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cynnig yn Senedd San Steffan ddydd Iau.

Daw wedi ymgyrch Knives Down gan yr actor Idris Elba sydd wedi galw am “waharddiad yn syth ar gyllyll gwallgo’”. 

Fe fydd rhagor o fathau o gyllyll miniog yn cael eu gwahardd a bydd gan yr heddlu mwy o rymoedd i’w cymryd nhw oddi ar eu perchnogion.

Dywedodd Idris Elba bod gwaharddiad yn gam cyntaf tuag at atal trais ar y strydoedd.

“Mae angen gwaharddiad ar unwaith ar gyllyll gwallgo’ fel cyllyll sombi, clefydau samurai, machete,” meddai.

“Eu gwahardd a'u gwneud yn anodd cael gafael ar, werthu, i ddosbarthu, a dal gafael arnyn nhw.

“Rwy’n deall bod dynion ifanc yn teimlo bod angen iddyn nhw amddiffyn eu hunain.

“Ond, ar y llaw arall, mae rhai pobl eisiau pŵer. Maen nhw eisiau dweud, “Ie, fydd neb yn ffycio gyda fi,” a dwi'n deall hynny.”

‘Penderfynol’

Dydd Iau bu'r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn amlinellu sut y byddwn nhw’n gostwng nifer y troseddau sy’n ymwneud â chyllyll.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd eu newidiadau yn atal y cyllyll rhag mynd i ddwylo troseddwyr.

Mae’r Blaid Lafur wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno canolfannau cymunedol er mwyn atal pobl ifanc rhag mynd yn rhan o gangiau treisgar.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cyflogi rhagor o weithwyr cymunedol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod “bylchau” yn y rheolau ar gyllyll sy’n golygu nad oedden nhw’n “waharddiad cynhwysfawr”.

Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly: “Rydym eisoes wedi cymryd camau i wneud cario cyllyll sombi yn anghyfreithlon.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gweithredu nawr ac rydyn ni’n benderfynol o gael y cyllyll hyn oddi ar y strydoedd.”

Llun gan PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.