Newyddion S4C

Effeithiau Storm Isha ar draws Cymru

24/01/2024

Effeithiau Storm Isha ar draws Cymru

Brwydro'r lli a ll'nau'r llanast.

Fe darodd Storm Isha Cymru gyda nerth a grym. Ben bore y gwaith o glirio ger Llanrwst wrthi'n dechrau. Gyda rhybudd oren am wyntoedd cryfion mewn grym, roedd ffyrnigrwydd y tywydd garw yn glir ar arfordir Môn. Y

n y Mwmbwls, fe gafodd hyrddiadau o 80mya eu cofnodi. Capel Curig yn Eryri oedd gwaethaf gyda hyrddiadau o 90mya. Ym Mlaenau Ffestiniog, dyma fesur y difrod.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r pyst rygbi ddisgyn ond y gwaith o'u trwsio ar waith cyn gem bwysig ar y penwythnos. R

oedd tipyn go lew o wynt. Gaethon ni lwc neithiwr achos dim ond hon daeth lawr. Gall y llall 'di cwympo hefyd! Yn ôl Scottish Power, roedd bron i 20,000 o gartrefi heb drydan yn y gogledd a'r canolbarth a thua 900 yn parhau heb gyflenwad heno. Neithiwr, roedd y gwynt yn chwythu llawer. Roedd y ffenestri'n shaking. Roedd y gwynt yn dod lawr y chimney hefyd a'r glaw yn mynd lawr. Doedd Mam ddim yn gallu mynd adref o'r gwaith oherwydd roedd y ffordd ar gau.

Mae 'di bod yn hegar ond yn lwcus bod dim llifogydd yma. Mae'n gwaethygu eto. Mi oedd 'na strach i deithwyr gyda'r rhwydwaith trenau wedi ei effeithio. Ac i rheiny'n teithio ar awyrennau, gafodd nifer eu dargyfeirio.

Fi ym maes awyr Caeredin ar hyn o bryd yn trio mynd adref i Fryste. O'n i fod mynd ar yr awyren am naw o'r gloch neithiwr ond gafodd y flight ei gohirio tan bump heddiw - diwrnod yn hwyrach. Mae pawb yn rhwystredig a 'sneb yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen.

Cafodd grym peryglus y storm ei amlygu pan gafodd dau eu lladd ar ôl i'w ceir daro coed oedd wedi disgyn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fel nifer o lonydd ar draws Cymru roedd yr A5 o Fethesda i Gapel Curig yng nghau ond bellach ar agor.

Mae'r rhybudd melyn am wyntoedd cryfion wedi dod i ben am y tro ond does dim lawer o seibiant. Fory, mae disgwyl i Storm Jocelyn daro. Gyda chaeau yn debycach i lynnoedd ger Porthmadog, mae'n dawelach heno. Wrth i rai wneud yn fawr o'r lloches prin mae eraill yn paratoi am ragor o dywydd garw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.