Newyddion S4C

Ystyriaeth i ostwng nifer dyddiau dosbarthu'r Post Brenhinol i bum neu dri diwrnod yr wythnos

24/01/2024
Postmon

Mae gostwng nifer y dyddiau y mae'r Post Brenhinol yn dosbarthu llythyron o chwech i bum neu dri diwrnod yr wythnos ymhlith yr opsiynau allai gael eu hystyried, yn ôl Ofcom. 

Mae'r rheolydd yn rhybuddio nad yw'r gwasanaeth post yn adlewyrchu'r oes hon, gan ychwanegu na fydd modd ei gynnal heb newidiadau.    

Yn ôl Ofcom, opsiwn arall yw ymestyn nifer y dyddiau y bydd yn rhaid aros cyn derbyn llythyron.

Mae'r Post Brenhinol eisoes wedi dweud nad oes modd iddyn nhw gynnal y gwasanaeth yn ei ffurf bresennol. 

Colledion

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, cofnododd y Post Brenhinol golledion o £319m, ac mae'r busnes sy'n berchen i International Distribution Services wedi bod yn galw am ddiwygio'r gwasanaeth ers 2020. 

Ond er mwyn cyflawni hynny, a gostwng nifer y dyddiau dosbarthu, byddai angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Senedd yn San Steffan newid y ddeddfwriaeth bresennol. 

Yn ôl Kevin Hollinrake, y Gweinidog yn San Steffan sy'n gyfrifol am y gwasanaeth post, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i'r trefniant o ddosbarthu llythyron chwe diwrnod yr wythnos. 

Ond yn ôl Prif Weithredwr Ofcom, Y Fonesig Melanie Dawes, mae angen ystyried newidiadau am fod nifer y llythyron sy'n cael eu hanfon bob blwyddyn wedi haneru ers 2011 gyda phobl yn derbyn llawer mwy o barseli bellach.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.