Y dadlau gwleidyddol yn parhau yn sgil colli swyddi Tata
Fe deithiodd gweithwyr dur o Bort Talbot i San Steffan ddydd Mawrth er mwyn siarad ag Aelodau Seneddol am gynlluniau cwmni Tata i gael gwared â miloedd o swyddi.
Mae pryder y bydd 2,800 o swyddi'n diflannu wrth i ffwrneisi Port Talbot gau.
Fe gyfarfu arweinwyr undebau â'r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer, cyn trafodaeth yn San Steffan ar ddyfodol y diwydiant dur.
Dywedodd aelodau Llafur fod penderfyniad Rishi Sunak i beidio â chysylltu â Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi'r cyhoeddiad yn "anghywir"
Mynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies fod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddod o hyd i ddatrysiad sy'n "dderbyniol i Tata" mewn ymgais i "arbed y nifer mwyaf posibl o swyddi."
Ychwanegodd: “Rwy'n deall yn llwyr pa mor ofnadwy yw'r newyddion hwn. Rwy'n deall bod pobl wedi eu llorio ym Mhort Talbot, y gymuned gyfan ac yn enwedig y rhai sy'n wynebu colli eu swyddi. Does neb yn gwadu hynny a does neb yn ffoi rhag hyn o gwbwl."
Dywedodd Mr Davies: “Nid penderfyniad y Llywodraeth oedd cau'r ffwrneisi. Penderfyniad Tata oedd hynny yn sgil eu colledion."
Ym Mae Caerdydd, fe fu Aelodau'r Senedd hefyd yn trafod cynlluniau Tata brynhawn Mawrth.