Cymru i herio'r Iwerddon yn eu gêm gyntaf ers ymadawiad Gemma Grainger
Bydd tîm pêl-droed Merched Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf ers ymadawiad y cyn-reolwr Gemma Grainger yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon fis nesaf.
Bydd y prif hyfforddwr dros dro, Jon Grey, yn cymryd yr awenau ar gyfer y gêm gyfeillgar ar nos Fawrth 27 Chwefror, yn Stadiwm Tallaght Shamrock Rovers, Dulyn.
Bydd y gêm, yn erbyn y tîm sydd yn 24ain ar restr detholion y byd, yn rhan o baratoadau Cymru ar gyfer ymgyrch rhagbrofol UEFA 2025.
Dyma fydd gêm gyntaf y flwyddyn i Gymru, yn dilyn eu gêm gyfartal 0-0 yn erbyn yr Almaen fis Rhagfyr y llynedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Dywedodd Jon Grey: “Mae Gweriniaeth Iwerddon wyth safle yn uwch yn safleoedd y byd a fydd o fudd i ni oherwydd rydyn ni bob amser eisiau chwarae a phrofi ein hunain yn erbyn cenhedloedd sydd yn uwch na ni.
“Rydym wedi dysgu digon o’n hymgyrch gyntaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd a byddwn yn edrych i adeiladu ar hyn wrth fynd i’r gêm gyfeillgar hon a thu hwnt.
“Byddwn ni’n darganfod ein gwrthwynebwyr am rownd ragbrofol UEFA 2025 yn gynnar ym mis Mawrth a gobeithio bydd y gêm hon yn helpu i gael y chwaraewyr gorau posib yn y lle ar gyfer dechrau’r ymgyrch ragbrofol sydd i ddod.”