Newyddion S4C

Rhybudd am bodiau golchi dillad wedi i ferch un oed losgi ei llygaid

22/01/2024
Kelly Spampinato

Mae mam wedi rhybuddio am beryg cadw podiau hylif golchi dillad o fewn cyrraedd plant wedi i’w merch un oed losgi ei llygaid yn ddifrifol.

Dywedodd Kelly Spampinato nad oedd Millie wedi gallu agor ei llygaid am rai dyddiau wedi hynny.

Roedd y plentyn wedi dod o hyd i’r cwdyn mewn cwpwrdd yn eu cartref ym Mryste ac wedi ei wasgu dros ei hwyneb.

“Ro’n i’n torri fy nghalon,” meddai Kelly Spampinato. “Ro’n i’n teimlo fel y fam waethaf yn y byd a bod yn onest ac yn meddwl y byddai hi’n ddall.

“Ro’n i'n hwfro yn yr ystafell fyw pan glywais i hi'n sgrechian. Mae'n rhaid ei bod hi wedi gwasgu’r cwdyn oherwydd roedd e dros ei hwyneb i gyd.”

Rhoddodd ddŵr oer ar ei hwyneb ond parhaodd i sgrechian felly ffoniodd 111 ac fe wnaethon nhw ei chynghori i fynd â hi i Adran Damweiniau ac Achosion Brys Southmead.

“"Roedd fy mhlant eraill yn gofyn a fyddai hi fyth yn agor ei llygaid eto a doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddweud," meddai Ms Spampinato.

"Wnes i erioed ddychmygu y gallai hyn ddigwydd.

“Pan agorodd hi ei llygaid ac estyn ei breichiau i fi roedden ni i gyd yn crio ac roedd o’n lyfli.”

'Dan glo'

Mae hi bellach wedi gwella a mae disgwyl i’w golwg adfer yn llwyr.

Dywedodd y fam bod y cydau yn lliwgar a bod eu teimlad meddal hefyd yn denu plant i gyffwrdd â nhw.

“Dw i’n eu cadw nhw dan glo ac allan o gyrraedd rwan,” meddai’r fam.

“Mae Millie wedi bod yn ffodus iawn.

"Fyddwn i ddim eisiau i hyn ddigwydd i unrhyw deulu arall - mae wedi bod yn erchyll i ni gyd."

Llun gan Kelly Spampinato.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.