Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law dros nos

20/01/2024
Ceir yn y glaw

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i ran helaeth o Gymru ddydd Sul a dydd Llun.

Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 00:00 ddydd Sul a 06:00 fore dydd Llun.

Fe allai'r tywydd achosi oedi ar wasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser o ganlyniad. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuyddio hefyd am lifogydd posib mewn rhai cartrefi a busnesau.

Fe fydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:

Blaenau Gwent

Pen-y-bont

Caerffili

Sir Gâr

Ceredigion

Conwy

Dinbych

Gwynedd

Merthyr Tudful

Castell-nedd Port Talbot

Sir Benfro

Powys

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.