Newyddion S4C

Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yn dilyn tân 'brawychus' ar stad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont

21/01/2024

Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yn dilyn tân 'brawychus' ar stad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont

Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau ar fechnïaeth dyn gafodd ei arestio yn dilyn tân sylweddol ar stad ddiwydiannol ym Mhen-y-bont.

Dywedodd y llu ddydd Sadwrn eu bod nhw wedi arestio dyn 25 oed lleol ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.

Ychwanegodd yr heddlu ddydd Sul ei fod wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Roedd wedi cael ei gwestiynu yn y ddalfa ym Mhen-y-bont a dywedodd yr heddlu bydd ymchwiliad manwl yn cychwyn unwaith bydd yn ddiogel i wneud hynny.

Cafodd nifer o griwiau'r gwasanaeth eu galw i'r digwyddiad yn Llangrallo nos Wener.

Mae lluniau fideo o leoliad y tân yn dangos fflamau a mwg trwchus yn codi o adeiladau ar y stad.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi derbyn yr alwad gyntaf am y digwyddiad am 20:22 nos Wener.

Ychwanegodd y llefarydd fod yr adeilad wedi dymchwel o fewn 10 munud.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi eu galw i'r lleoliad ond nid oedd adroddiadau bod neb wedi eu hanafu.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd cwmni Viking Removals, sydd yn berchen ar storfa ar y safle, nad oeddynt wedi cael eu heffeithio ac nad oedd yn ymddangos bod neb wedi eu hanafu: 

"Rydym wedi bod yn lwcus iawn ac mae'n ymddangos ein bod wedi osgoi unrhyw ddifrod. Diolch i'r gwasanaeth tân a wnaeth lusgo ein cerbydau'n gorfforol o unrhyw ddifrod. Am y tro rydym yn ddiolchgar fod popeth yn ymddangos yn iawn, gan obeithio nad oes neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad erchyll hwn."

Fe wnaeth Heddlu De Cymru apelio ar bobl i osgoi'r ardal yn dilyn y digwyddiad.

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân De Cymru hefyd gynghori pobl sy'n byw yn yr ardal i gadw drysau a ffenestri ar gau. 

"Rydym yn cynghori pobl i gadw draw o'r ardal ar yr adeg yma", meddai llefarydd mewn datganiad.

Nid yw'n eglur hyd yma pa adeiladau ar y stâd sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd yr aelod Ceidwadol o Senedd Cymru Tom Giffard fod yr olygfa yn un "frawychus".

Mewn neges ar X (Twitter gynt), dywedodd: "Golygfa o’r ffenest braidd yn frawychus heno wrth i’r criwiau fynd i’r afael â thân enfawr yn Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.

"Mae fy meddyliau gyda'r rhai a gafodd eu dal yn y digwyddiad mawr hwn a'r gweithwyr o'r gwasanaethau brys sy'n gweithio'n galed i ddelio â'r sefyllfa."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.