Storm Isha: Cyhoeddi rhybudd oren am wyntoedd cryfion i Gymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am wyntoedd cryfion pan fydd Storm Isha yn taro Cymru ddydd Sul.
Bydd y rhybudd mewn grym o 18.00 ddydd Sul hyd at 9.00 fore Llun.
Mae rhybudd melyn am law trwm hefyd wedi'i gyhoeddi ar hyd y wlad, a fydd yn para o 06.00 bore Sul hyd at 06.00 fore Llun.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai’r tywydd garw beryglu bywyd, gyda disgwyl Tonnau mawrion ar hyd yr arfordir.
Bydd disgwyl i’r gwyntoedd cryfion gyrraedd hyd at 80mya ar hyd yr arfordir, ond bydd gwyntoedd rhwng 50-60mya i’r mwyafrif o ardaloedd.
Mae disgwyl i rai ffyrdd a phontydd fod ar gau, gyda’r gwyntoedd cryfion hefyd yn achosi oedi ar y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog unigolion i aros adref ddydd Sul ac i osgoi gyrru os oes modd gwneud hynny.
Maen nhw hefyd rhybuddio y gallai difrod gael ei achosi i rai adeiladau a thai, ac i baratoi at golli cyflenwad pŵer am gyfnod.
Siroedd
Mae’r rhybudd oren yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
Blaenau Gwent
Pen-Y-Bont ar Ogwr
Caerffilli
Caerdydd
Caerfyrddin
Ceredigion
Conwy
Gwynedd
Ynys Môn
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg