Diwrnod o fyfyrdod i gofio'r rhai fu farw yn ystod y pandemig
Bydd diwrnod o fyfyrdod yn cael ei gynnal ledled y DU fis Mawrth i gofio'r rhai fu farw yn ystod y pandemig.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal ers i'r Comisiwn Coffhau Covid argymell y dylai cael ei gynnal ar ddydd Sul cyntaf mis Mawrth yn flynyddol. Bydd y diwrnod eleni ar Fawrth 3.
Mae'r elusen Marie Curie wedi bod yn cynnal digwyddiad tebyg yn flynyddol ers 2021. Eleni mae'r llywodraeth wedi cyfrannu £500,000 tuag at hybu'r digwyddiad.
Bydd yn cynnwys munud o dawelwch am hanner dydd.
Dywedodd yr actor a llysgenad Marie Curie, Jim Carter: "Pan rwy'n meddwl am y pandemig, rwy'n meddwl am y golled bersonol o fywyd bob dydd.
"Rwy'n meddwl am y galar annioddefol roedd pobl yn deimlo - ac yn dal i deimlo - o golli partneriaid, plant, rhieni."
Mae'r comisiwn hefyd wedi argymell y dylid dysgu disgyblion ysgol am brofiadau pobl yn ystod y pandemig.
Yn ogystal, mae nhw eisiau gweld llecynau gwyrdd yn cael eu hadnabod fel mannau i leoli cofebau.