Disgwyl i Tata gyhoeddi y bydd 3,000 o swyddi yn mynd ym Mhort Talbot
Disgwyl i Tata gyhoeddi y bydd 3,000 o swyddi yn mynd ym Mhort Talbot
Mae disgwyl y bydd cwmni Tata yn cyhoeddi fore Gwener y bydd 3,000 o swyddi yn diflannu ym Mhort Talbot.
Mae Tata wedi bod yn cyfarfod gyda'r undebau llafur Unite, GMB a Community yn Llundain ddydd Iau.
Mae disgwyl i Tata wneud cyhoeddiad swyddogol i gadarnhau eu cynlluniau i gau dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ddydd Gwener.
Wedi'r cyfarfod, dywedodd Charlotte Brumpton- Childs o undeb y GMB :"Byddai diswyddiadau ar raddfa eang yn ergyd enfawr i Bort Talbot ac i'r sector gynhyrchu yn y DU yn gyffredinol.
"Does dim rhaid i bethau fod fel hyn - roedd yr undebau wedi cynnig ffordd arall realistig, wedi ei gostio, fyddai wedi golygu nad oedd angen diswyddiadau gorfodol."
Dywedodd Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur Aberafon, y byddai'r penderfyniad yn golygu "colli swyddi 3000 o ddynion a merched sydd wedi rhoi eu bywydau i ddiwydiant sy'n sail i ddiwydiant ceir Prydain, y sector amddiffyn, rheilffyrdd, adeiladu, tyrbinau gwynt, a llawer iawn mwy.
"Mae'r galw byd-eang am ddur yn tyfu, ond drwy ddilyn model cul ffwrnais trydanol yn unig, ni fydd Tata yn gallu manteisio ar gyfleon masnachol y dyfodol, tra'n gadael Prydain yn fwyfwy dibynadwy ar ddur wedi ei fewnforio."
Gwrthod
Dywedodd Sioned Williams Aelod Senedd Cymru dros dde-orllewin Cymru ar "X" ei bod hi wedi bod yn siarad gyda phobl ym Mhort Talbot fore Iau, ac y byddai'r newyddion yn "ysgytwol" i drigolion lleol
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ym mis Medi mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Byddai'n rhaid i Tata Steel fod wedi ymrwymo i adeiladu ffwrneisi trydanol fel rhan o’r cytundeb, er mwyn symleiddio’r broses o greu dur.
Byddai hyn hefyd wedi ceisio mynd i’r afael ag allyriadau carbon y cwmni.
O ganlyniad, dywedodd Tata mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y byddai’r cytundeb yn gallu ei achub.
Mae tua 4,000 o bobl wedi eu cyflogi gan Tata Steel ym Mhort Talbot.
Yn dilyn y cyhoeddiad, fe wnaeth cannoedd o weithwyr Tata ym Mhort Talbot gynnal protest fis Tachwedd y llynedd yn erbyn y cynlluniau.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, fe wnaeth undebau gynnig cynllun arall, fyddai wedi golygu llai o ddiswyddiadau tra yn parchu'r amcan o leihau allyriadau carbon. Ond mae'n ymddangos fod Tata wedi gwrthod hynny.