Heddlu: Tai heb ryngrwyd wedi i geblau gael eu torri
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i geblau dan ddaear gael eu torri gan achosi problemau rhyngrwyd yn Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y ceblau wedi eu torri a’u cymryd o strydoedd Hamilton Court a Wavell Crescent yn Noc Penfro.
Fe achosodd y difrod a'r lladrad i'r rhyngrwyd beidio gweithio yn yr ardal dan sylw.
Dywed yr heddlu fod y cwmni oedd yn darparu’r rhyngrwyd wedi ymweld a darganfod bod y ceblau wedi eu torri a’u tynnu oddi yno.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu gyda’r ymchwiliad, gan gynnwys unrhyw un sydd â darluniau camera cylch cyfyng, neu gamera mewn cloch drws, wylio’r darluniau a chysylltu gyda’r heddlu os oes yna unrhyw beth allai fod o gymorth wrth adnabod yr unigolion yma,” medden nhw.
Dylai unrhyw un sy’n cysylltu â’r heddlu ddyfynnu cyfeirnod 24000062044.