Cwest yn clywed i ddyn farw yn Llandaf ar ôl cael ei drywanu droeon yn ei wddf
16/01/2024
Clywodd cwest i farwolaeth dyn 23 oed iddo farw ar Noswyl Nadolig yng Nghaerdydd ar ôl cael ei drywanu droeon yn ei wddf.
Cafodd William Bush o Aberhonddu ei ddarganfod ar Stryd y Capel yn Llandaf, tua 11:30 ar 24 Rhagfyr 2023. Bu farw'n ddiweddarach.
Mae Dylan Thomas, 23, o Landaf wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad i Mr Bush farw ar ôl iddo gael ei drywanu yn ei wddf sawl tro.
Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.