Darganfod 400 o blanhigion canabis ar Ynys Môn
Darganfod 400 o blanhigion canabis ar Ynys Môn
Mae tua 400 o blanhigion canabis wedi eu darganfod gan swyddogion yr heddlu ar Ynys Môn.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd "fferm ganabis soffistigedig" ei chanfod mewn adeilad ar Stryd y Farchnad yng Nghaergybi, gyda phlanhigion yn tyfu mewn pedair ystafell yno.
Ychwanegodd y llu bod nifer o eitemau eraill hefyd wedi’u cludo oddi yno.
Dywedodd y Rhingyll Iwan Jones: “‘Da ni’n diolch i’r gymuned am eu help a’u gwybodaeth parhaus wrth i ni geisio cau a dinistrio ffatrïoedd canabis ar Ynys Môn.
“‘Da ni hefyd wedi ymroi i warchod pobl fregus ac ifanc cymuned Caergybi sy’n aml yn cael eu targedu gan droseddwyr drwy geisio dod â chyffuriau i’r ardal.”